Mae Ynni Cymunedol Cymru wedi lansio maniffesto sy’n gosod her i’r genhedlaeth nesaf o wleidyddion Cymru gan gynnig cyfres o fesurau a pholisïau ar gyfer newid y modd y defnyddir a pherchnogir ynni yng Nghymru. Mae’r maniffesto hefyd yn pwysleisio’r modd y gellid sicrhau cymunedau mwy ffyniannus a llewyrchus drwy newid modelau perchnogaeth, gan sicrhau ffrydiau ariannol y bydd gan drigolion reolaeth ohonynt a all yn y pen draw gyfrannu tuag at noddi gofodau cymunedol, isadeiledd ac adnoddau cymunedol a gwasanaethau lleol.
Ymhlith cynigion y ddogfen mae’r galwad i ddatganoli Ystâd y Goron i Gymru ac i ddefnyddio’r refeniw ohono ynghyd a ‘threth ar adnoddau naturiol’ ar ddatblygiadau ynni preifat ar raddfa fawr er mwyn creu Cronfa Cyfoeth Cymunedol newydd. Y syniad yw y gellid defnyddio’r arian o’r gronfa i gyllido prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa lai byddai’n cael eu rhedeg a’i gweinyddu gan grwpiau cymunedol lleol.
Mewn datganiad dywedodd Leanne Wood, Cyd-gyfarwyddwr Gweithredol Ynni Cymunedol Cymru:
“Mae hyder mewn cwmnïau preifat, sefydliadau a llywodraethau i wneud y peth iawn i’w cymunedau ar ei isaf erioed. Gadawodd elw o chwyldroadau ynni blaenorol y wlad drwy’r model economaidd echdynnol hynafol. Os yw’r model aflwyddiannus hwn yn gyrru’r chwyldro ynni nesaf – ar ben y toriadau difrifol i wasanaethau cyhoeddus a seilwaith cyhoeddus – bydd cymunedau Cymru yn cael eu camfanteisio a’u hymylu unwaith eto.”
Dywedodd Ben Ferguson, Cyd-gyfarwyddwr Gweithredol Ynni Cymunedol Cymru:
“Mae diffyg difrifol o gefnogaeth ar gyfer camau cynnar busnesau cymunedol – byddai Cronfa Cyfoeth Cymunedol yn caniatáu’r adnoddau sydd eu hangen i greu’r busnesau hyn, ac yn cloi’r buddion sy’n dod gyda nhw i gymunedau Cymru.”
Datblygwyd y maniffesto yn dilyn ymgynghori ac ymgysylltu gyda mudiadau ynni cymunedol ar draws Cymru. Rhannwyd gweledigaeth benodol ar gyfer ‘cymunedau ynni’ – ardaloedd o tua 250-300 o dai sydd yn cynhyrchu, cadw a defnyddio’r hyn o ynni ac sydd yn bosib yn yr ardal honno. Un effaith posib o hyn yw y byddai’n caniatáu i drigolion lleol i brynu trydan am brisiau rhatach na chyfraddau’r farchnad.
Mae’r maniffesto hefyd yn trafod yr economi gylchol, gyda chynigion i ffafrio datblygiadau economaidd adfywiol yn hytrach na rhai echdynnol ynghyd newidiadau i’r broses gaffael i wella cyfleoedd i sefydliadau llai, a mwy o gyllid i gyfleoedd hyfforddi a phrentisiaethau ar gyfer y swyddi rheiny sydd yn angenrheidiol i adeiladu a chynnal cymunedau ynni.
Dywedodd Leanne Wood:
“Rydym wedi treulio llawer o amser yn gwrando ar ein haelodau yn y sector ynni cymunedol am y rhwystrau i ddatblygu ynni cymunedol newydd. Mae’r mesurau a amlinellir yn y maniffesto hwn yn anelu at dorri’r rhwystrau hynny i alluogi’r sector ynni cymunedol a pherchnogaeth gymunedol yn ehangach i ffynnu. Rydym yn gobeithio y bydd pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr etholiadol yn gwrando ar ein cymunedau ac yn dilyn y mesurau a amlinellir. Mae’n hanfodol bod cymunedau’n gallu gwireddu buddion diriaethol o’r newidiadau sy’n dod i’n system ynni, ac mae’r mesurau a amlinellir yn y maniffesto hwn yn eu galluogi i wneud hynny. Rhaid i’n heconomi weithio dros gymunedau Cymru.”
Gallwch lawrlwytho a darllen y maniffesto drwy glicio ar y ddolen hon: Maniffesto Ynni Cymunedol Cymru 2026.

