Mae partneriaeth newydd gyda’r cwmni deallusrwydd artiffisial sofran Cosine i helpu i wella sut mae deallusrwydd artiffisial yn gweithio yn Gymraeg.
Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu data, adnoddau ac arbenigedd i helpu i wella sut mae model Lumen AI Cosine yn deall ac yn prosesu’r Gymraeg.
Mae sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu yn yr oes ddigidol yn nod gan y Llywodraeth, gan ei gwneud hi’n haws i bobl ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eu bywyd bob dydd.
Mae hefyd yn cefnogi gwaith y llywodraeth i sicrhau bod technolegau newydd yn cydnabod, deall a chefnogi dwyieithrwydd, gan adlewyrchu sut mae cymunedau amlieithog ledled y byd yn defnyddio deallusrwydd artiffisial bob dydd.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Cosine, Alistair Pullen:
Mae’r Gymraeg yn rhan hanfodol o gynfas ieithyddol y Deyrnas Unedig. Mae’r gwaith hwn gyda Llywodraeth Cymru yn ein helpu i adeiladu sylfaen gryfach i Lumen, a rhoi gwell cynrychiolaeth o’r ieithoedd a’r cyd-destun cyhoeddus sy’n bwysig ledled y Deyrnas Unedig.

