Gweithdy ar-lein LPIP a Gyda’n Gilydd: Aml-ddatrysiad ar gyfer gweithredu ar yr hinsawdd

September 2026 | Cymunedau a 'lle', Natur a hinsawdd, Sylw

Mae LPIP Cymru Wledig, mewn cydweithrediad â Gyda’n Gilydd dros Newid yn lansio gweithdai ar-lein newydd i unrhyw un mewn cymuned neu sy’n gweithio gyda chymunedau ac sydd am ddefnyddio ymchwil fel offeryn ar gyfer gweithredu.

Mae’r sesiynau ar-lein, sydd wedi’u hariannu’n llawn, yn defnyddio ymchwil newydd i gefnogi gweithredu cymunedol go iawn.

Aml-ddatrysiad ar gyfer gweithredu ar yr hinsawdd – gweithdy ymarferol i gymunedau yw thema’r ail sesiwn, gynhelir ar-lein ar 14 Hydref 2026, 13:00 – 14:30.

Ymunwch â Dr Sophie Wynne-Jones a Dr Elen Bonner o Brifysgol Bangor i ddeall sut y gall arwain gyda buddiannau lluosog adeiladu sylfaen ar gyfer ymgysylltu dyfnach ar yr hinsawdd o fewn cymunedau.

Bydd y gweithdy yn archwilio sut y gall gostyngiadau mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr ddigwydd o ganlyniad i ddiwallu anghenion bob dydd, yn hytrach nag fel pwynt gwerthu ymlaen llaw, fel y gellir normaleiddio ymddygiadau sy’n ystyriol o’r hinsawdd trwy eu gwneud yn ymarferol ac yn apelgar.

Bydd y siaradwyr yn rhannu enghreifftiau o sut mae gweithio gyda chymunedau i sefydlu blaenoriaethau lleol yn allweddol i sut y gall ardaloedd gwledig arfer arweinyddiaeth hinsawdd mewn ffyrdd sy’n effeithiol ac yn gymdeithasol dderbyniol. Trwy ddechrau o brofiad, cyd-destunau, hanesion a blaenoriaethau lleol, mae mentrau’n gallu datblygu ymyriadau sy’n teimlo’n berthnasol ac yn gyraeddadwy.

Bydd cyfranogwyr yn gadael gydag offer ymarferol, safbwyntiau newydd, a chamau nesaf clir i ymgorffori aml-ddatrysiad ar gyfer gweithredu ar yr hinsawdd yn eu gwaith bob dydd.

I goftrestru dliciwch YMA

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau ar gyfer thema a fyddai’n ddefnyddiol ar gyfer sesiwn, anfonwch e-bost at post@tfc.cymru

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This