Bwrw golwg ar argymhellion adroddiad Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig Senedd Cymru ar ddeallusrwydd artiffisial a’r economi

September 2025 | AI ac Awtomeiddio, Sylw

Ym mis Mai eleni cyhoeddodd Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig Senedd Cymru adroddiad oedd yn edrych yn benodol ar ddeallusrwydd artiffisial a’i effeithiau posib ar economi Cymru. Teitl yr adroddiad yw ‘A all androidau Cymru freuddwydio am ddefaid trydan?’, cyfeiriad at nofel Phillip K. Dick ‘Do Androids Dream of Electric Sheep?’, sylfaen yr addasiad ffilm ‘Blade Runner’.

Ym mhell o fod yn ddogfen sy’n dychmygu dyfodol dystopaidd tebyg i’r llyfr, mae’r adroddiad yn trafod goblygiadau posib technolegau newydd megis modelau iaith mawr (large language models neu LLMs yn Saesneg) ar y gweithlu a natur gwaith yng Nghymru. Yng nghyd a chrynhoi’r dystiolaeth a glywyd gan y pwyllgor, mae yna hefyd wyth argymhelliad penodol a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru i’w hystyried.

Mae’r argymhellion a restrir gan y pwyllgor fel a ganlyn:

Argymhelliad 1: Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu cynllun gweithredu sy’n nodi’r dull y bydd yn ei gymryd i wneud y mwyaf o fanteision posibl deallusrwydd artiffisial, gan gynnwys camau gweithredu penodol sy’n ymwneud â chefnogi busnesau a’r gweithlu, a datblygu seilwaith deallusrwydd artiffisial.

Argymhelliad 2: Dylai Llywodraeth Cymru nodi pa feysydd deallusrwydd artiffisial y mae’n credu bod gan Gymru fantais gystadleuol ynddynt, a sut y bydd yn cefnogi busnesau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru yn y meysydd arbenigol hyn i ddatblygu a thyfu.

Argymhelliad 3: Dylai Llywodraeth Cymru adolygu pa gymorth sydd ar gael i gefnogi busnesau i fabwysiadu deallusrwydd artiffisial ac elwa ohono, a nodi ble mae bylchau’n bodoli. Yn sgil yr adolygiad hwn, dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda phartneriaid i fynd i’r afael â’r bylchau hyn.

Argymhelliad 4: Dylai Llywodraeth Cymru nodi sut y mae’n bwriadu cefnogi unrhyw barthau twf deallusrwydd artiffisial a ddatblygir yng Nghymru, gan gynnwys sut y bydd yn helpu i fynd i’r afael â chanlyniadau posibl o ran mwy o ddefnydd o ynni a dŵr.

Argymhelliad 5: Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gellir ymgorffori’r syniad o gaffael deallusrwydd artiffisial yn ei chanllawiau sydd ar ddod ar elfennau caffael cymdeithasol gyfrifol Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus 2023.

Argymhelliad 6: Dylai Llywodraeth Cymru ddadansoddi pa feysydd, sectorau a grwpiau demograffig y mae dadleoli swyddi oherwydd deallusrwydd artiffisial fwyaf tebygol o gael effaith negyddol arnynt. Yn seiliedig ar ei chanfyddiadau, dylai weithio gyda phartneriaid i ddatblygu a thargedu cymorth wedi’i deilwra ar gyfer y grwpiau hyn.

Argymhelliad 7: Dylai Llywodraeth Cymru asesu pa sgiliau sydd eu hangen ar y gweithlu i alluogi Cymru i wneud y mwyaf o’r manteision posibl o ddeallusrwydd artiffisial, ac adolygu i ba raddau y mae gan y gweithlu a gweithlu’r dyfodol y sgiliau hyn. Lle nodir bylchau, dylai flaenoriaethu gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu’r addysg a’r sgiliau angenrheidiol i fynd i’r afael â’r rhain.

Argymhelliad 8: Dylai Llywodraeth Cymru adeiladu ar ei chanllawiau presennol mewn perthynas â deallusrwydd artiffisial a’r gweithle drwy:

▪ Weithio gyda phartneriaid i nodi pa ganllawiau pellach sydd eu hangen yn y sector cyhoeddus datganoledig mewn perthynas ag ansawdd swyddi a materion cydraddoldeb ynghylch deallusrwydd artiffisial a’r gweithle, a datblygu hyn.

 ▪ Ystyried pa ganllawiau deallusrwydd artiffisial a’r gweithle sydd eu hangen i gefnogi busnesau a gweithwyr y sector preifat, a gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu hyn.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb i argymhellion y pwyllgor gan ddweud eu bod yn derbyn neu derbyn mewn egwyddor pob un o’r argymhellion. Mae modd canfod adroddiad llawn y pwyllgor drwy ddilyn y ddolen hon. Mae modd darllen ymateb Llywodraeth Cymru yma.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This