Mae aelodau panel ymgynghorol a fydd yn cefnogi Llywodraeth Cymru i sefydlu asiantaeth ddatblygu newydd i Gymru wedi cael eu cyhoeddi.
Roedd creu asiantaeth newydd hyd braich i Lywodraeth Cymru un o addewidion allweddol Plaid Cymru ym maniffesto Etholiad y Senedd.
Dyma aelodau’r panel annibynnol a’u meysydd arbenigedd wedi’u nodi:
- Sarah Williams-Gardener OBE (Is-gadeirydd) – Aelod sefydlu Banc Starling a Chadeirydd FinTech Wales – arloesi, denu buddsoddiad a datblygu ecosystemau busnes;
- John Evans – Cyn Brif Swyddog Gweithredol Subsea7 – sector ynni a phrosiectau seilwaith ar raddfa fawr;
- Gerald Holtham – Athro Gwadd yr Economi Ranbarthol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, a Phartner Rheoli yn Cadwyn Capital LLP – economeg ranbarthol, polisi cyhoeddus, cyllid a buddsoddi, gyda gwybodaeth awdurdodol am dirwedd ariannol ac economaidd Cymru;
- Beren Kayali – Cyd-sylfaenydd a CTO Deploy Tech – arloesedd dan arweiniad peirianneg, masnacheiddio technoleg carbon isel a datblygu busnesau newydd;
- Alison Lea-Wilson MBE – Cyd-sylfaenydd Halen Môn – twristiaeth,cychwyn busnes, datblygu, gwerthu, allforio, datblygu cynnyrch sy’n seiliedig ar le ac adeiladu brand rhyngwladol llwyddiannus;
- La-Chun Lindsay OBE – Cyn Reolwr Gyfarwyddwr, GE Aviation Wales – arwain gweithrediadau rhyngwladol cymhleth ar draws diwydiannau;
- Nigel Morris – Cyd-sylfaenydd Capital One a Phartner Rheoli QED Investors – cyfalaf menter a busnesau technoleg twf uchel yn fyd-eang;
- Gareth Noyes – roedd ganddo amrywiaeth o rolau uwch yn Wind River Systems – strategaeth dechnolegol, arloesi, trawsnewid digidol a graddio busnesau twf uchel;
- Oriel Petry – Uwch Is-lywydd Airbus UK – strategaeth ddiwydiannol, buddsoddiad rhyngwladol a gweithgynhyrchu uwch; a
- Laura Doel – Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru – datblygu’r gweithlu, sgiliau, partneriaeth gymdeithasol, gwaith teg a safbwyntiau gweithwyr.
Mae aelodau’r Panel yn ymgymryd â’r swyddi yn ddi-dâl. Bydd y panel ein cynghori, rhoi argymhellion ac yn herio Llywodraeth Cymru ynglŷn â ffurf a swyddogaethau’r asiantaeth.
Bydd rhaglen o ymgysylltu â rhanddeiliaid i sicrhau mewnbwn ystod eang o leisiau ar draws tirwedd datblygu economaidd Cymru hefyd yn cael ei gynnal.

