Llywodraeth Cymru yn dechrau ymgynghoriad ar newidiadau i gyfraith treth

September 2025 | Sylw

Mae Llywodraeth Cymru wedi agor ymgynghoriad a’r cyhoedd ar newidiadau i ddeddfwriaeth treth yng Nghymru, gan gynnwys newidiadau posib i’r Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Mae’r trethi rhain ymhlith y nifer cyfyngedig o drethi sydd wedi eu datganoli i Gymru.

Mae gofyn ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol i newid rhai rheolau treth, tra gall eraill gael eu newid drwy ddull rheoliadau. Nod yr ymgynghoriad yw archwilio a gofyn barn y cyhoedd ynghylch y dull mwyaf priodol i wneud newidiadau yn enw sicrhau fod deddfau trethu yn gallu cael eu diweddaru mewn modd effeithlon pan mae gofyn gwneud. Y gobaith yw bydd hyn yn galluogi i Lywodraeth Cymru ymateb mewn modd mwy ystwyth i ddulliau osgoi treth a newidiadau i drethi tebyg ar lefel y DU sy’n cael eu gosod yn Llundain.

Mewn datganiad dywedodd Mark Drakeford:

“Mae trethi Cymru yn chwarae rhan hanfodol i ariannu’r gwasanaethau cyhoeddus sy’n bwysig i bobl ym mhob cwr o Gymru. Mae’n bwysig bod y mecanweithiau cywir ar waith gennym i gadw ein system dreth yn deg, yn effeithiol ac i sicrhau ei bod yn ymateb i newid.  Ar yr un pryd, mae’n rhaid sicrhau bod y Senedd yn craffu’n briodol ar y mecanwaith.

Nod yr ymgynghoriad hwn yw dod o hyd i’r ffordd orau ymlaen i Gymru – boed hynny drwy filiau treth blynyddol, drwy brosesau deddfwriaethol gwahanol, neu drwy wella ein system bresennol. Rwy’n annog pawb sydd â diddordeb yn sut mae Cymru yn rheoli ei chyllid i fynegi eu barn.”

Mae’r ymgynghoriad ar agor nes 28 Tachwedd 2025 ac ar gael drwy ddilyn y ddolen hon. Bydd canfyddiadau’r ymgynghoriad yn cael eu cyhoeddi yn gynnar yn 2026.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This