Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi aelodau’r Gweithgor Arbenigol a fydd yn helpu i lunio’r Strategaeth Fwyd Genedlaethol i Gymru, ynghyd â Chylch Gorchwyl y grŵp.
Cadeirydd y grŵp yw Simon Wright, perchennog Wright’s Food Emporium yn Llanarthne, a benodwyd ym mis Gorffennaf. Ers hynny, mae Wright wedi gweithio gydag unigolion allweddol yn y sector i helpu i ddatblygu’r Cylch Gorchwyl, sy’n esbonio’r rhesymeg, yr amcanion a’r dulliau gweithio ar gyfer y strategaeth o hyn ymlaen.
Bydd y canlynol yn ymuno â Simon Wright ar y Gweithgor Arbenigol:
- Ian Rickman, FUW
- Sarah Gould, Lantra
- Tim Lang, Prifysgol Dinas Llundain
- Deiniol ap Dafydd, Blas ar Fwyd
- Catherine Smith, Cadeirydd, Hybu Cig Cymru
- Sue Pritchard, Prif Weithredwr, Food, Farming and Countryside Commission
- Sam Kemp, Partneriaeth Bwyd Torfaen
- Shea Buckland-Jones, Pennaeth Polisi ac Eiriolaeth, WWF Cymru
- Dr Rhian Hayward, Aelod o Fwrdd Cymru, Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
- Cynrychiolydd o NFU Cymru
Bydd y grŵp yn cwrdd yn rheolaidd i nodi heriau a chyfleoedd cyffredin ar draws y system fwyd, argymell ymyriadau cynnar ac ymarferol cyn cyhoeddi’r strategaeth derfynol, a llunio ffyrdd i’r cyhoedd helpu i siapio a pherchnogi datblygiad y strategaeth. Gweinidogion Cymru fydd yn gyfrifol am dderbyn yr argymhellion yn derfynol o hyd.
Bydd y strategaeth yn seiliedig ar bedwar piler: iechyd a lles, diogelu cyflenwadau bwyd (neu ddiogeledd bwyd), datblygu gwledig ac economaidd, a’r amgylchedd. Gyda’i gilydd, bydd y rhain yn llywio dull system gyfan o ymdrin â pholisi bwyd yng Nghymru, o’r cynhyrchydd i’r plât; manwerthu, iechyd, addysg, caffael cyhoeddus a’r economi gylchol.
Er mwyn bwrw iddi’n gyflym, bydd tri grŵp yn canolbwyntio ar fwyd mewn ysgolion, ehangu garddwriaeth fwytadwy yng Nghymru, a diogeledd cadwyn gyflenwi cig Cymru. Bydd yr is-grwpiau hyn yn defnyddio arbenigedd allanol ychwanegol i nodi atebion cyflym ochr yn ochr â gwaith tymor hwy’r strategaeth.

