Mae mabwysiadu deallusrwydd artiffisial oddi fewn i fusnesau bach a chanolig dal yn weithred cymharol brin, ond mae’r offer yn tyfu’n fwy hygyrch a gyda hynny’r cyfleoedd ar gyfer ei ddefnyddio yn tyfu. O adeiladwr yn defnyddio amserlenni rhagfynegol, i gynhyrchwr bwyd yn awtomeiddio tracio stocrestrau, neu gaffi gwledig yn cynhyrchu cynnwys i’r cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnydd deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, mae camau bach yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Mae adran Ymchwil y Senedd wedi dangos fod cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau busnes yn arwain y ffordd drwy fabwysiadu deallusrwydd artiffisial yng Nghymru, tra bod nifer o fusnesau bychan dal i wynebu heriau: cysylltedd gwael, ymwybyddiaeth isel, diffyg hyder digidol a diffyg cydweddoldeb a’r Gymraeg ym mheth o’r offer sydd ar gael.
Eto mae’r offer parod sydd ar gael bellach yn haws i’w ddefnyddio nac erioed o’r blaen. Fel y mae Llywodraeth Cymru yn nodi, mae adrannau yn barod yn defnyddio deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol i gyflymu ysgrifennu adroddiadau a diweddaru tudalennau gwe. Mae’r un dechnoleg yn gynyddol hygyrch i entrepreneuriaid cefn gwlad.
“Mae llawer o offer deallusrwydd artiffisial yn hawdd i’w deall a’u defnyddio, sy’n meddwl bod modd i hyd yn oed y mentrau lleiaf elwa.” – Deall deallusrwydd artiffisial mewn busnesau gwledig: cyfleoedd i Gymru (2025)
Mae hefyd cyswllt cynyddol rhwng cynaliadwyedd a deallusrwydd artiffisial. Mae busnesau gwledig sy’n ystyried yr amgylchedd yn aml yn gweld deallusrwydd artiffisial fel modd o leihau gwastraff, defnyddio adnoddau yn well, a chefnogi modelau cylchol, nid modd o gynyddu elw yn unig.
Dysgwch fwy:
Sut rydyn ni’n defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) ac offerynnau algorithmig | LLYW.CYM
Yr Economi Deallusrwydd Artiffisial yng Nghymru Chwefror 2025

