Chwyldro tawel – rôl cynyddol deallusrwydd artiffisial yn y Gymru wledig

November 2025 | AI ac Awtomeiddio, Sylw

Gall deallusrwydd artiffisial (AI) ysgogi delweddau o labordai technoleg ac egin gwmnïoedd mewn dinasoedd mawr ond mae modd gweld ei effaith yn llefydd fel cefn gwlad Cymru. O fonitro’r gylfinir ar dir fferm anghysbell i fusnesau bach yn awtomeiddio gwaith gweinyddol, yn dawel bach mae deallusrwydd artiffisial yn trawsnewid y ffyrdd y mae pobl yn byw, gweithio a rheoli’r tir.

Fe wnaeth arolwg diweddar gan adran Ymchwil y Senedd ddarganfod taw ond 7.42% o fusnesau bach a chanolig oedd yn defnyddio deallusrwydd artiffisial yn 2022, yn llai na gwledydd eraill y DU, ond fod y potensial yn anferthol. Mae Llywodraeth Cymru a phartneriaid ym myd diwydiant bellach yn archwilio’r ffyrdd gall deallusrwydd artiffisial gefnogi cynhyrchiant, cadwraeth a gwytnwch economaidd ar draws rhanbarthau gwledig.

“Mae peryg i Gymru gwympo ar ei hol hi oni bai ei bod yn cefnogi mabwysiadu deallusrwydd artiffisial o fewn yr economi wledig.” – Deall deallusrwydd artiffisial mewn busnesau gwledig: cyfleoedd i Gymru (2025)

Mewn cyfres o dair o erthyglau, byddwn yn archwilio’r mannau hynn y mae AI yn barod yn gwneud gwahaniaeth yn y Gymru wledig, gan edrych ar feysydd megis cynhyrchiant busnesau bach i amddiffyn cynefinoedd bregus. Byddwn hefyd yn edrych ar yr heriau megis isadeiledd, sgiliau, ynni a sut y gall gwneuthurwyr polisi, arloeswyr a chymunedau weithio ynghyd o siapio dyfodol sy’n cynnwys deallusrwydd artiffisial sydd yn foesegol ac yn gynhwysol.

Darllen pellach – Deall deallusrwydd artiffisial mewn busnesau gwledig: cyfleoedd i Gymru

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This