Bydd Tamsin Ramasut a’r Athro Simon Gibson CBE yn arwain y tasglu, a fydd yn darparu cyngor ymarferol ac arbenigol ar gefnogi dyfodol canol trefi Cymru i Lywodraeth Cymru.
Mae Tamsin Ramasut yn ymarferydd profiadol ym maes adfywio, creu lleoedd ac ymgysylltu â’r gymuned. Trwy ei gwaith gyda Pont Collective a rolau blaenorol, mae wedi cefnogi’r gwaith o gyflawni prosiectau adfywio a mentrau seiliedig ar leoedd ledled Cymru a thu hwnt.
Mae’r Athro Simon Gibson CBE yn hwylusydd arloesedd Cymru ers amser maith. Fel sylfaenydd Alacrity ac yn ei rolau arwain blaenorol yn Wesley Clover ac Awdurdod Datblygu Cymru, mae wedi helpu i ddenu buddsoddiad, cefnogi entrepreneuriaeth a sbarduno twf busnes ledled Cymru, profiad a fydd yn amhrisiadwy i waith y Tasglu.
Gan weithio gydag aelodau o fusnes, llywodraeth leol, adfywio, cynllunio, y byd academaidd a chymunedau, bydd y cyd-gadeiryddion yn goruchwylio rhaglen waith i ddatblygu argymhellion ymarferol i Weinidogion Cymru ar sicrhau dyfodol canol trefi.

