Nid yw deallusrwydd artiffisial ond yn ddatrysiad ar gyfer yr ystafell fwrdd neu’r ddinas. Yn y Gymru wledig, mae’n gynyddol yn cael ei ddefnyddio fel offeryn ar gyfer gweithio gyda’r tir, i adnewyddu cynefinoedd, cefnogi amaethyddiaeth a chryfhau’r cysylltiadau rhwng pobl a natur. Yn yr erthygl hon byddwn yn edrych ar sut mae deallusrwydd artiffisial yn creu’r newid hyn, gan ganiatáu monitro natur ar raddfa eang, helpu ffermwyr i neud penderfyniadau gwell ac yn creu posibiliadau newydd ar gyfer adnewyddu a gwytnwch gwledig.
Mapio ein gorffennol er mwyn ail-blannu’r dyfodol
Un defnydd trawiadol yw defnydd deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol gan Lywodraeth Cymru i adnabod ardaloedd o goetiroedd hanesyddol sydd wedi eu colli drwy gymharu hen fapiau a delweddau presennol, ynghyd a safleoedd wedi eu penni gan olwg cyfrifiadurol, gan ganiatáu cadwraethwyr i dargedu ail-blannu ac adfywio mewn modd manwl. Mae’r system hwn yn cefnogi adnewyddu cynefinoedd cynhenid ac yn cyfrannu at ddatblygiad gwledig yn seiliedig ar natur.
Ar raddfa ehangach mae’r bartneriaeth rhwng Vodafone a Phartneriaethau Parciau Cenedlaethol y DU wedi lansio rhaglen tair blynedd o fapio cynefinoedd drwy ddeallusrwydd artiffisial ar draws y 15 parc cenedlaethol yn y DU, gan gynnwys Parc Cenedlaethol Eryri yng Nghymru. Mae’r fenter yn defnyddio rhwydwaith Vodafone, synwyryddion deallus a chamerâu IoT i ddarparu data geo-ofodol byw ar fioamrywiaeth, traweffaith ymwelwyr ac iechyd cynefinoedd. O fewn Eryri, mae’r data yn cynorthwyo adfywio muriau cerrig a llwyni, ffiniau caeau traddodiadol sydd o bwys i gysylltedd cynefinoedd, pryfed peillio ac amrywiaeth rhywogaethol.
Monitro bywyd gwyllt ac amaethyddiaeth mwy deallus
Tu hwnt i fapio cynefinoedd, mae deallusrwydd artiffisial yn gwella canlyniadau cadwraeth yng nghefn gwlad Cymru. Er enghraifft, mae’r Game & Wildlife Conservation Trust (GWCT) yng Nghymru wedi treialu rhwydwaith o gamerâu-trap wedi’u pweru gan ddeallusrwydd artiffisial i fonitro’r gylfinir Ewrasiaidd. Gan ddefnyddio model manwl gywir sy’n gallu canfod gwrthrychau, fe wnaethon nhw ddarganfod gylfinirod a’u cywion gyda chywirdeb o dros 90%, gan leihau’n sylweddol yr angen ar gyfer chwilota drwy ddelweddau a chyflymu’r ymateb cadwraethol.
Ym myd ffarmio, mae modelau dysgu peirianyddol yn cynorthwyo mapio caeau byw, monitro iechyd da byw, darogan afiechyd a defnydd gwrtaith. Mae’r offer hyn yn caniatáu i ffermwyr neud penderfyniadau mwy hyddysg ac effeithlon, gan gynyddu cynhyrchiant tra hefyd yn lleihau gwastraff a sgil effeithiau amgylcheddol.
Cydbwyso cynnydd, pobl a lle
Mae’r camau arloesol hyn yn rhai grymus, ond maent hefyd yn codi cwestiynau pwysig. Mae mynediad at gysylltedd da, cyflenwad pŵer dibynadwy, cynnal a chadw synwyryddion mewn lleoliadau anghysbell a llywodraethiant data yn ofidion gwirioneddol yng nghefn gwlad Cymru. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i’w arolwg Economi Deallusrwydd Artiffisial yn pwysleisio fod isadeiledd, datblygu sgiliau a pholisi cynhwysol yn hanfodol os yw rhanbarthau gwledig am elwa’n gyfartal o’r newid.
Ar yr un pryd, ni ellir anghofio’r elfennau dynol ac ecolegol. Dylai deallusrwydd artiffisial gynorthwyo yn hytrach na disodli, rheolwyr tir lleol, ffermwyr, gweithwyr bioamrywiaeth a’r rheini sy’n meddu ar wybodaeth gymunedol. O’i ddefnyddio’n effeithiol, gall deallusrwydd artiffisial wella gweithredu lleol ond o’i weithredu mewn modd sâl mae peryg iddo ehangu’r gagendor digidol gwledig neu anwybyddu realiti bywydau tirluniau gwledig.
Yr addewid i gefn gwlad Cymru
O’u cyfuno, mae’r edefynnau hyn yn arwain tuag at ddyfodol lle gall y Gymru wledig ddefnyddio offer digidol i wella cynhyrchiant a gwaith i adfer natur. Gall deallusrwydd artiffisial gynorthwyo ffermio sy’n fwy effeithlon, monitro bioamrywiaeth mewn modd mwy manwl, ac adfywio natur mewn modd mwy clyfar, gan helpu mentrau gweledig a thirluniau gwledig i ffynnu ynghyd. I sefydliadau sy’n gweithio ym maes datblygu gwledig mae’r dasg yn un eglur: buddsoddwch mewn isadeiledd a sgiliau, ffurfiwch bartneriaethau gyda chymunedau lleol ac ymchwilwyr, a dyluniwch systemau deallusrwydd artiffisial sy’n adlewyrchu realiti tirluniau amrywiol Cymru.
Dysgwch fwy:
- Vodafone & UK National Parks AI habitat mapping partnership (2025)
- Sustainability Magazine
- Sut rydyn ni’n defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) ac offerynnau algorithmig

