Adroddiad Dr Elin Royles yn cynnig argymhellion i gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle

August 2025 | Arfor, Sylw

Mae adroddiad newydd sydd wedi ei ysgrifennu gan Dr Elin Royles o Brifysgol Aberystwyth yn trafod defnydd y Gymraeg yn y gweithle a pa gamau gellid eu cymryd er mwyn cynyddu defnydd yr iaith ym myd gwaith. Nod yr adroddiad yw trafod arfer da wrth ystyried y cysylltiadau sy’n bodoli rhwng yr economi a’r iaith a’r gweithle. Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan y cwmni ymchwil Wavehill, fel rhan o’u gwaith ar gyfer ffrwd Monitro, Gwerthuso a Dysgu rhaglen ARFOR II.

Mewn datganiad dywedodd Elin Royles bod gwerth edrych ar esiampl Gwlad y Basg er mwyn deall yn well y rôl y mae gweithleoedd yn gallu chwarae wrth hyrwyddo defnydd iaith ac annog newid ymddygiad:

“Rydyn ni gwybod bod gwahanol ymdrechion i gefnogi datblygu cynlluniau iaith mewn gweithleoedd yng Ngwlad y Basg wedi arwain at arbenigedd helaeth dros y ddau ddegawd diwethaf, ac mae ‘na le i ni ddysgu mwy o’r hyn sy’n digwydd yno.”

“Hyd yma, mae llawer o’r pwyslais wedi bod ar y modd y gall y Gymraeg fod yn fantais economaidd i fusnesau a sut mae cynyddu’r cyfleon i gwsmeriaid ddefnyddio’r iaith wrth ymwneud gyda chwmnïau preifat. Beth mae’r adroddiad yma yn ei nodi yw’r cyfleon pellach i ddatblygu sut ydyn ni’n trafod rôl gweithleoedd mewn hyrwyddo iaith a’r dulliau o gefnogi’r ddefnydd o’r Gymraeg mewn busnesau, cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol. Mae nifer o’r argymhellion hefyd yn berthnasol i’r sector gyhoeddus.”

Mae’r adroddiad yn gwneud 13 o argymhellion i gyd. Rhestrir hwy yma fel y maent yn ymddangos yn yr adroddiad:

Argymhelliad 1: O ystyried y trafodaethau yn y llenyddiaeth astudiaethau busnes ac yng Ngwlad y Basg sy’n berthnasol i ystyried y defnydd o iaith leiafrifol mewn busnesau a mentrau cymdeithasol (Adran 2) mae lle i ddatblygu’r drafodaeth o’r rhesymau dros ddefnyddio’r Gymraeg yn y sectorau hyn. Dwy elfen benodol i’w datblygu’n bellach yw’r drafodaeth o gyfrifoldeb cymdeithasol fel rheswm dros roi sylw i ddefnyddio’r Gymraeg mewn gweithleoedd a chynyddu’r gydnabyddiaeth o arwyddocâd gweithleoedd i gynllunio iaith, yn arbennig defnydd iaith mewnol mewn gweithleoedd.

Argymhelliad 2: Dylid ystyried os oes modd datblygu menter i rannu arfer da ac felly annog gweithredu cadarnhaol o ran rheolaeth iaith yng Nghymru.

Argymhelliad 3: Fel rhan o ystyried datblygu menter hyrwyddo arfer da mewn rheolaeth iaith, byddai’n fuddiol gwerthuso modelau posibl, yn arbennig ystyried y dadleuon o ran dilyn model tebyg i Wlad y Basg ble mae ymdrechion hyrwyddo arfer da rheolaeth iaith wedi’u hymgorffori yn rhan o waith sefydliad sydd â’r nod o hyrwyddo arferion rheolaeth uwch, yn hytrach na sefydliad hyrwyddo iaith.

Argymhelliad 4: Ar sail arfer da ‘Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog’, mae lle i ddatblygu hyfforddiant ar newid diwylliant sy’n rhoi sylw i faterion seicolegol agweddau arweinwyr at y Gymraeg ar gyfer y sector fusnes a mentrau cymdeithasol.

Argymhelliad 5: O ystyried tuedd Gwlad y Basg i roi sylw i feithrin arweinyddiaeth ieithyddol ar wahanol lefelau, dylid asesu os oes hefyd angen cefnogi datblygu capasiti arweinyddiaeth o fewn cyrff ar yr iaith Gymraeg yng Nghymru yn ehangach.

Argymhelliad 6: Byddai’n fuddiol rhannu yn bellach y gwahanol fathau o ymyrraethau i newid arferion ieithyddol gyda gwahanol sectorau.

Argymhelliad 7: Dylid datblygu dealltwriaeth bellach o’r modd mae mentrau cymdeithasol, cydweithredol a chymunedol yn ymgorffori’r Gymraeg yn eu hegwyddorion a’u gweithrediad. Mae prosiect tebyg yn dechrau yng Ngwlad y Basg ar hyn o bryd.

Argymhelliad 8: Ar sail gwaith argymhelliad 7, dylid datblygu canllawiau arfer da i fentrau cymdeithasol a chydweithredol ar sut i ymgorffori’r Gymraeg yn rhan o’u gwaith, gan dynnu ar esiamplau fel Partneriaeth Ogwen.

Argymhelliad 9: Dylid ymateb i’r galw am ddull i fentrau cymdeithasol asesu eu gwerth ieithyddol. Byddai’n galluogi mynd y tu hwnt i wybodaeth anecdotaidd am gyfraniad mentrau cymdeithasol i hyfywedd y Gymraeg i allu mesur hynny.

Argymhelliad 10: O ystyried graddau gweithredu ieithyddol mentrau cydweithredol yng Ngwlad y Basg, mae lle i adnabod ffyrdd o rannu’r gwersi rhwng mentrau gwahanol yng Ngwlad y Basg â mentrau tebyg yng Nghymru.

Argymhelliad 11: Mae lle i archwilio yn bellach beth yw cyfraniad gwahanol fframweithiau o ran cefnogi busnesau a mentrau cymdeithasol i ymgorffori ystyriaethau ieithyddol i’w gwaith yng Nghymru, gan gynnwys ystyried gwerth y model cyfrifoldeb corfforaethol ieithyddol yn y cyd-destun hwn.

Argymhelliad 12: Ochr yn ochr â datblygu’r drafodaeth o’r rhesymau dros ddefnyddio’r Gymraeg yn y sector breifat ac mewn mentrau cymdeithasol (Argymhelliad 1), mae lle i asesu’r gefnogaeth i gefnogi ac annog cyrff i ddatblygu eu defnydd o’r Gymraeg fel iaith y gweithle. Gellid hefyd ehangu a datblygu’r dull o gynnwys cymalau iaith mewn cytundebau. Mae lle hefyd i ystyried swyddogaeth dyletswyddau cyfreithiol i ddatblygu defnydd o’r iaith yn y sectorau hyn.

Argymhelliad 13: Ochr yn ochr â hyn, dylid cymryd camau i gynyddu statws a defnydd y Gymraeg fel iaith gwaith mewn gweithleoedd sector gyhoeddus fel cam cadarnhaol ynddo’i hunan ac fel cam i ddylanwadu ar sectorau eraill i arwain ar ddefnydd iaith. Mae hyn yn hynod o berthnasol yn ardal Arfor.

Yn ddiweddar fe ysgrifennodd Dr Elin Royles flog gwadd i Arsyllfa am ei phrofiad o ymweld a Gwlad y Basg fel rhan o waith rhaglen ARFOR, gallwch ddarllen am ei hargraffiadau o’r ymweliad yma.

I ddarllen y papur yn ei gyfanrwydd, dilynwch y ddolen hon i wefan Prifysgol Aberystwyth.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This