Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi cyfres o newidiadau i’r Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag mewn ymgais i gynyddu’r nifer o’r tai gwag sy’n cael eu defnyddio ar draws y sir. Bellach mae’r uchafswm sydd ar gael drwy’r cynllun grantiau wedi ei gynyddu o £20,000 i £25,000. Mae’r trothwy incwm blaenorol, a oedd yn £60,000 i bob cartref, bellach wedi ei osod ar £60,000 yr unigolyn neu £80,000 y cwpl fel modd o gydnabod y cynnydd cyffredinol diweddar mewn cyflogau.
Mae’r Cyngor hefyd wedi cyhoeddi newidiadau i’r dull o benderfynu pa eiddo sy’n gymwys ar gyfer y grant. Roedd yr hen drefn yn seiliedig ar gost yr eiddo fel sail, lle bellach defnyddir Band Treth Cyngor i benderfynu pa gartrefi sy’n gymwys. Mae unrhyw gartref ym mandiau A i D bellach yn gymwys ar gyfer y grant. Mae’r grant ar gael i adnewyddu tai sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy, a thai gwag oedd arfer bod yn ail gartrefi. Rhain yw’r cartrefi lle mae disgwyl i’r perchennog dalu Premiwm Treth Cyngor.
Ers lansio’r cynllun yn 2021 mae’r grant wedi helpu i ddod â 112 o dai yn ôl i ddefnydd parhaus ac wedi helpu hybu busnesau lleol drwy gefnogi ar gyfartaledd 3.5 o gontractwyr lleol ar gyfer pob cais. Mae’r rhaglen wedi’i hariannu gan gyllid o Bremiwm Treth y Cyngor ar Ail Gartrefi.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd ar gyfer Tai ac Eiddo, y Cynghorydd Paul Rowlinson:
“Mae gweld tai yn sefyll yn wag ac yn cael eu gwastraffu yn fy nhristáu. Rydym yn wynebu argyfwng tai yn lleol ac yn genedlaethol. Mae’r cynllun grantiau yma yn galluogi pobl leol i roi bywyd newydd i adeiladau segur, gan eu troi’n gartrefi o safon. Mae’r cynllun wedi profi ei werth yn barod, gan helpu cannoedd o drigolion trwy’r sir i ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd, ac ar ben hynny, i brynu tai fforddiadwy o fewn eu cymunedau.”
“Rydym yn cydnabod bod costau adnewyddu’r tai hyn wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Dyna pam mae’r Cyngor wedi cynyddu’r grant o £20,000 i £25,000 er mwyn rhoi cymorth mwy effeithiol i’r rhai sy’n adnewyddu tai gwag. Rydym hefyd wedi cynyddu’r trothwy cyflog er mwyn gallu helpu mwy o bobl i fanteisio ar y cynllun.”
“Mi faswn i’n annog unrhyw un sy’n bwriadu prynu tŷ gwag neu dŷ oedd yn arfer bod yn ail gartref i edrych ar wefan y Cyngor am fwy o wybodaeth, neu gysylltu â thîm Tai Gwag y Cyngor am sgwrs am y grantiau hyn.”
I ddysgu mwy am y Cynllun Grant Cartrefi Gwag Gwynedd a chynlluniau tai eraill, dilynwch y ddolen hon i wefan Cyngor Gwynedd.

