Wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei ymateb i argymhellion Adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, yn y blog gwadd hwn mae Dr Elin Royles, Ddarllenydd yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, yn tynnu sylw at weithredu cyrff sector gyhoeddus yng Ngwlad y Basg ynghylch polisiau iaith, ddaeth i’r amlwg ar daith Arfor yno.
Wrth ymateb yr wythnos diwethaf i Adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, cyfeiriodd Llywodraeth Cymru at raglen Arfor II fel cyfle i dreialu mentrau i gynorthwyo’r economi mewn ardaloedd cyfrwng Cymraeg a phwysigrwydd dysgu gwersi o’r rhaglen. Beth ddaeth i’r amlwg ar daith Arfor i Wlad y Basg oedd graddau potensial gweithredu sector gyhoeddus i gael effaith gadarnhaol ar iaith leiafrifol wrth ymgorffori hyn yn eu ffyrdd o weithio fel sefydliadau. Dyma enghreifftiau sy’n cydfynd gydag ymateb y Llywodraeth wrth cytuno ar bwysigrwydd y sector gyhoeddus mewn datblygu’r Gymraeg mewn gweithleoedd, symud ar hyd y continwwm ieithyddol (Argymhellion 19 a 20), eu derbyniad o’r angen i ‘fanteisio i’r eithaf’ ar gyfleoedd i ddefnyddio gwariant cyhoeddus i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg (Argymhelliad 14), ac ar ddatblygu llwybrau gyrfa a swyddi wedi eu hanelu at boblogaethau lleol.
Roedd y criw brwd ar daith Arfor i Wlad y Basg, dan arweiniad Elin Haf Gruffydd Jones, yn gyfuniad o aelodau Bwrdd Arfor, grŵp swyddogion Arfor, swyddogion cyrff yn gweithredu’r rhaglen a staff o brifysgolion yn ymwneud â’r rhaglen. Bu’n gyfle i ddeall mwy am weithgaredd sefydliadau cyhoeddus lleol a phrifysgolion yng Ngwlad y Basg i gefnogi’r Fasgeg.
Campws Fabrik, Prifysgol Mondragon
Profiad cadarnhaol oedd ymweld â champws Fabrik Prifysgol Mondragon grëwyd mewn ymateb i gais cyngor dinas Bilbao i gyfrannu at arloesedd yno drwy greu Cyfadran Arloesedd. Dechreuadau Prifysgol Mondragon a sefydlwyd yn 1997 gan y grŵp o fentrau cydweithredol Mondragon, oedd canolfan ymchwil yn yr 1970au, a darparwyd hyfforddiant dyniaethau ac addysg o 1976 ymlaen wrth sylweddoli’r bwlch mewn hyfforddiant i addysgu yn y Fasgeg.
Yn y brifysgol ble roedd gofod ar gyfer egin fusnesau (start-ups) a labordy arloesi, clywsom am y radd pedair blynedd ‘Dyniaethau Digidol Bydeang’. Fel rhan ohoni, ac mewn cynlluniau gradd eraill Mondragon, roedd pwyslais ar interniaethau. Yn yr ail flwyddyn, roedd ymweliad astudio â Brwsel, ac yn y drydedd a’r bedwaredd flwyddyn roedd dwy interniaeth o fewn cwmni. Ar yr interniaeth gyntaf, byddai’r myfyrwyr yn gweithio ar brosiect oedd yn gweithredu ar lefel fyd-eang, ar brosiect digidol neu yn ymwneud ag arloesedd cymdeithasol. Yn eu interniaeth blwyddyn olaf maent yn datblygu prosiect go iawn ar gyfer y cwmni.
Byddai cyfleon i ddefnyddio a gweithio yn y Fasgeg mewn 70% o’r sefydliadau’n cynnig interniaethau, a llai o gyfleon yn y rhai yn ymwneud â phrosiectau byd-eang oedd yn gofyn am weithio yn Saesneg a Sbaeneg. Roedd y ganran uchel yn cydfynd gydag ymrwymiad y Brifysgol i hyrwyddo’r Fasgeg o fewn eu cynlluniau gradd.
Tref Hernani
Profiad trawiadol oedd clywed gan Faer Hernani, tref yn nhalaith Gipuzkoa, 9 cilomedr o Donostia. Yn dref o ychydig dros ugain mil o bobl, mae oddeutu 240 cwmni diwydiannol yno’n gweithio mewn sectorau amrywiol, gan gynnwys cwmnïau rhyngwladol a rhai’n rhan o grŵp cydweithredol Mondragon. Eglurodd y Maer fod 40 miliwn o ewros o gyllideb yn flynyddol gan y dref yn sgil incwm trethiannol iach o’r diwydiannau yn yr ardal. Tra nad oedd cyfrifoldeb penodol am ddatblygu economaidd gan y lefel hon o lywodraeth, eu bwriad fel cyngor oedd cael dylanwad ieithyddol drwy eu gweithredu mewnol, ddefnyddio grymoedd caffael, mewn prosiectau ac yn eu perthynas â chwmniau mawr.
Elfen allweddol i geisio cael dylanwad ieithyddol oedd gweithredu’n fewnol yn y Fasgeg. Ystyrient eu hunain fel un o’r cynghorau mwyaf yn defnyddio’r Fasgeg fel iaith fewnol. Tra bod y penderfyniad i weithredu’n fewnol drwy’r Fasgeg yn 2011 wedi bod yn gymharol ddadleuol, bellach roedd wedi’i dderbyn ac wedi gwreiddio. Felly, y Fasgeg yw iaith cyfarfodydd ac roedd ganddyn nhw weithdrefnau mewnol o ran defnyddio’r Fasgeg. Pe byddai angen darparu gwybodaeth yn Sbaeneg, byddai’n cael ei gyfieithu ar y diwedd. Cai cyfieithu ar y pryd o’r Fasgeg i’r Sbaeneg hefyd ei ddefnyddio mewn rhai cyfarfodydd allanol, ond ddim yn aml. Roedd gan bob swydd yn y cyngor broffil iaith ac roedd dealltwriaeth o’r Fasgeg yn uwch ymysg y staff na’r proffil iaith.
Roedd y cyngor hefyd yn gosod amodau a chymalau iaith yn eu cytundebau caffael darparu gwasanaethau, er enghraifft i lanhau, delio gyda sbwriel, neu ddarparu gofal. Roedd eu disgwyliadau ieithyddol yr un peth â petai’r cyngor ei hun yn darparu’r gwasanaeth. Er enghraifft, roedd disgwyl i broffil iaith staff gyfateb gyda disgwyliadau’r cyngor petai nhw’n darparu’r gwasanaeth. Mae cytundeb caffael hefyd yn cynnwys asesiad o anghenion ieithyddol ar gyfer swyddi penodol. Roedd cost darparu hyfforddiant iaith cael ei gynnwys a’i gydnabod, a’r cyngor tref yn monitro’r gweithrediad. Cyfrifoldeb a phroses mewnol cwmni fyddai asesu sgiliau iaith eu staff fel rhan o asesu cydymffurfio â’r disgwyliadau. Os na fyddai’r corff yn gwireddu’r disgwyliadau cymalau iaith, byddai gofyn llunio cynllun iaith yn amlinellu sut i’w wireddu. Gan bod 14 mlynedd ers cyflwyno’r trefniadau, roedd cwmniau wedi arfer ac yn deall y ddisgwyliadau.
Menter drawiadol oedd cytundeb y cyngor gyda menter gydweithredol i ddarparu gofal yn y cartref i henoed Hernani. Cyfrannodd y cyngor at sefydlu’r fenter wedi’i redeg gan fenywod wedi mudo i Sbaen. Gan fod eu sgiliau ieithyddol Basgeg yn gyfyngedig a’r cyngor am iddynt ddatblygu eu sgiliau Basgeg, fel rhan o’r cytundeb mae’r cyngor yn talu 15% o oriau gwaith y gweithwyr i ddysgu’r Fasgeg mewn canolfannau dysgu iaith. Dyma fenter yn diwallu’r angen am ddarparu gofal cymdeithasol, y gweithwyr yn datblygu sgiliau llafar yn y Fasgeg ac yn hybu integreiddio cymdeithasol drwy ddod â dwy gymuned at ei gilydd. Nid oedd asesiad ffurfiol o’r rhaglen 3 blynedd oed ond argraff staff y cyngor oedd bod y gweithwyr yn cymryd rhan mewn digwyddiadau eraill yn y dref a bod y cynllun yn eu galluogi i gefnogi’u plant yn y system addysg Fasgeg, a bod y fenter yn chwalu mythiau am heriau dysgu a gwerth y Fasgeg.
Roedd y cyngor hefyd yn gweithio gyda chwmniau bach a chanolig o fewn eu hardal i gynyddu eu defnydd o’r Fasgeg yn fewnol, yn weledol a gyda chleientiaid. Eu disgwyliad oedd y byddai unrhyw un yn cynrychioli cwmni fyddai’n cwrdd â’r cyngor yn gallu siarad Basgeg. Nid oedd gan y cyngor rym i orfodi cwmniau i osod arwyddion Basgeg ond fe allent eu hybu i wneud hynny. Pe bai cwmni yn methu â darparu fersiwn mewn Basgeg, byddai neuadd y dref yn eu cynorthwyo. Datblygiad diweddar oedd pasio deddfwriaeth leol yn creu disgwyliad ar gaffis neu bwytai oedd am ddefnyddio tir cyhoeddus (e.e. teras neu bafin) i ddaparu’r fwydlen mewn Basgeg.
Hefyd, defnyddiai’r cyngor gymalau iaith fel rhan o’r drefn caniatâd cynllunio. Er mwyn ceisio dylanwadu ar archfarchnadoedd fel Lidl i wneud y Fasgeg yn weladwy, roeddent yn llunio cytundebau arwahân. Nid oedd modd rhoi gofyniad iaith arnynt yn ôl y gyfraith ond roedd cymalau iaith yn cael eu trafod gyda chwmni o’r cychwyn a’r cyngor yn datblygu Memorandwm Cyd-Ddealltwriaeth. Tra nad oedd sail gyfreithiol gadarn, ystyriwyd hyn fel ffordd o annog gwneud y Fasgeg yn weladwy ac yn ceisio sicrhau bod cwmnïau mawr yn dod i mewn i’r ardal yn ymwybodol o bwysigrwydd y Fasgeg a’r disgwyliadau arnynt.
Dyma gyfoeth o enghreifthiau o weithredu cadarnhaol ieithyddol gan gyrff cyhoeddus.
Yn achos Prifysgol Mondragon, tanlinellwyd potensial interniaethau i feithrin cysylltiadau myfyrwyr â gweithleoedd, gan gynnwys i ddefnyddio’r Fasgeg. Mae’n enghraifft dda o integreiddio rhwng gweithleoedd a phrifysgolion all gefnogi darparu llwybrau gyrfa i sgiliau proffesiynol a swyddi Cymraeg lleol.
Yn nhref Hernani, gwelwyd arwyddocâd defnyddio cyfuniad o rymoedd lleol i hyrwyddo iaith leiafrifol. Mae gwerth i bob elfen: o weithredu’n fewnol yn y Fasgeg, disgwyliadau ieithyddol uchel mewn prosesau cytundebau caffael, cynnwys ystyriaethau ieithyddol wrth sefydlu mentrau cydweithredol i ateb bylchau mewn darpariaeth gwasanaethau, a defnyddio grymoedd cynllunio a dylanwad i hyrwyddo’r iaith wrth ymwneud gyda chwmnïau. Does dim dwywaith fod sefyllfa ariannol cynghorau lleol Cymru yn wahanol ond mae ymateb diweddar Llywodraeth Cymru yn cadarnhau’r angen i ddefnyddio gwariant cyhoeddus i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg, gweithredu ar ddyletswyddau i ystyried y Gymraeg wrth ddosbarthu grantiau a chaffael gwasanaethau yn sgil Safonau’r Gymraeg, heb sôn am y potensial i wneud mwy i ddatblygu’r iaith mewn gweithleoedd. Fel ag yn Hernani, mae effaith y fath weithredu’n debyg o fod gymaint mwy o’u gweithredu ar y cyd. Ydi’r ewyllys gwleidyddol ymysg awdurdodau lleol a geiriau Llywodraeth Cymru am droi’n gefnogaeth i gymryd camau pellach breision i hyrwyddo’r Gymraeg yn ardaloedd arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch Arfor?

