Bydd Expo Busnes Cymru yn dychwelyd yn yr hydref gyda dau ddigwyddiad arbennig bydd yn rhoi cyfle i fusnesau rwydweithio ac ymgysylltu a’i gilydd. Bydd y cyntaf o’r ddau ddigwyddiad yn cael ei gynnal ar 10 Medi 2025 yn Arena Abertawe a’r ail ar 16 Hydref 2025 yn Venue Llandudno.
Yn ôl Busnes Cymru, sef trefnwyr y digwyddiadau, llwyddwyd i ddenu 97 o arddangoswyr y llynedd, gyda rhain yn arddangos 872 o gyfleoedd contract oedd werth cyfanswm o £36.1 biliwn. Mae Busnes Cymru yn credu bydd digwyddiadau eleni yn fwy eto, gyda mwy o brynwyr, cyflenwyr a sefydliadau cymorth yn cymryd rhan.
Mae modd cofrestru i arddangos neu fynychu drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Expo Busnes Cymru.

