Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn creu Cofrestr Genedlaethol o Isrywogaethau Coed Afal o Gymru er mwyn ceisio diogelu treftadaeth yr afalau unigryw sydd i’w canfod yng Nghymru. Mae’r rhestr yn cofnodi 29 math gwahanol o afalau o Gymru ac yn ganlyniad tair blynedd o weithio ar y cyd gyda Carwyn Graves, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, y Marcher Apple Network ac eraill.
Mae Cymru a Lloegr wedi colli dros hanner eu perllannau ers 1900 yn ôl ymchwil a gynhaliwyd gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn 2022. Dywed fod hyn o ganlyniad i newidiadau mewn defnydd tir yn bennaf, gyda’r gyfradd colli perllannau yn codi’n uwch o lawer yng Nghymru yn yr hanner canrif ddiwethaf.
Mae’r Marcher Apple Network wedi bod yn chwilio am isrywogaethau coll ac afalau treftadaeth ar draws Cymru a siroedd gororau Lloegr ers 40 mlynedd a mwy. Mae Casgliad Cenedlaethol Cymru yn dod yn sgil ffrwyth eu llafur hwythau a’r casgliad maent wedi ei ddatblygu, ynghyd a chasgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Casgliad Ffrwythau Cenedlaethol yn Brogdale.
Mae’r gofrestr yn ymgais i wrthsefyll y colledion diweddar drwy gofnodi a rhannu gwybodaeth ynghylch ein treftadaeth afalau ac i annog pobl i gadw i dyfu a chynaeafu afalau Cymru.
Mewn datganiad dywedodd yr arbenigwr afalau Carwyn Graves:
“Roedd treftadaeth afalau unigryw Cymru bron â mynd yn angof rhyw ddegawd neu ddau yn ôl, ond mae ganddi werth diwylliannol sylweddol – sy’n cael ei adlewyrchu ym mhopeth, o ganeuon gwerin poblogaidd yn seiliedig ar afalau a pherllannau i draddodiad seidr ffermdy eithriadol o ddiddorol sy’n ymestyn yn ôl i’r Canol Oesoedd!”
“Rydym yn adeiladu ar y gwaith mae nifer o unigolion a sefydliadau wedi’i wneud dros y degawdau diwethaf yma i ddiogelu’r dreftadaeth enetig unigryw yma. Yn gyffrous iawn, cyn belled ag y gwyddom ni, dyma’r Gofrestr Genedlaethol cyntaf o’i bath sy’n dosbarthu isrywogaethau – felly mae’n cynnwys mathau sydd wedi ymddangos yn rhywle arall neu o fewn ardal hanesyddol y Mers ond sydd wedi datblygu cysylltiadau diwylliannol cryf gyda chymunedau yng Nghymru.”
Mae tri categori i’r rhestr sef afalau ‘hanesyddol’ sy’n dyddio o cyn y 1950au, ‘modern’ wnaeth ddyfod wedi hynny a ‘chysylltiedig’ sef afalau nad ydynt yn deillio yn wreiddiol yng Nghymru ond sydd a arwyddocâd diwylliannol penodol.
Dywedodd Alex Summers, Prif Arddwr Llanerchaeron, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru sy’n rhan o’r grŵp sydd wedi dwyn ynghyd Cofrestr Genedlaethol Isrywogaethau Afalau o Gymru:
“Yn Llanerchaeron rydym yn ddigon ffodus i fod â 6 o’r 29 o wahanol fathau o afalau ar y Gofrestr Genedlaethol, diolch yn rhannol i reoli’r ardd mewn ffordd ystyrlon am bron i ddwy ganrif.”
“Drwy ddewis mathau sy’n cael eu rhestru ar y Gofrestr wrth blannu coed afalau, nid yn unig fydd gan bobl goeden sy’n addas i hinsawdd newidiol Cymru ac sy’n gallu gwrthsefyll yr afiechydon sy’n fwyaf amlwg yn rhan orllewinol Prydain, ond byddant hefyd yn helpu i ddiogelu treftadaeth ddiwylliannol Cymru fel rydym ni’n ei wneud yma yn Llanerchaeron.”
Yn ôl trefnwyr y prosiect mae 35 math arall o afalau yn parhau i gael eu hystyried ar gyfer y Gofrestr Genedlaethol sydd angen eu canfod, megis Foreman’s Crew, Bassaleg Pippin a Pêr Gwenyn. Os oes gyda chi unrhyw wybodaeth am goed afalau sy’n gysylltiedig gyda hen berllan neu fferm mae’r rheini sy’n rhedeg y prosiect yn eiddgar i glywed gennych. Fe allwch gysylltu gyda gwybodaeth berthnasol drwy e-bostio WelshAppleTrees@marcherapple.net neu carwyn@ceginybobl.co.uk.
I ddysgu mwy am y 29 math o afal ar y rhestr, dilynwch y ddolen hon i wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

