Mewn blog gwadd arbennig mae Daniel Lock o Gwasanaeth Natur Cymru yn trafod ei ymweliad a Phrosiect Down to Earth ym Mhenrhyn Gŵyr gan amlinellu’r potensial sydd i’w ganfod wrth feddwl yn wahanol ar rhai o’r heriau cymdeithasol ac ecolegol yr ydym yn eu hwynebu.
Yn ddiweddar, cefais y pleser o ymweld â Phrosiect Down to Earth ar Benrhyn Gŵyr eto.
Gan sefyll ar ben eu safle gwyrdd, tonnog, edrychais dros ystafelloedd dosbarth a swyddfeydd solar, wedi’u crefftio’n hyfryd gan ddefnyddio technegau traddodiadol a deunyddiau naturiol. Oddi tano fi, roedd gardd organig yn amsugno heulwen y gwanwyn tra bod moch yn tyrchu’n hapus gerllaw – y ddau’n cael maethu gan ddŵr glân o’r system gynaliadwy ‘Biorock’ sy’n trin dŵr gwastraff y safle. Roedd gwenyn yn sïo ymhlith coed ffrwythau oedd yn blodeuo yn y berllan dreftadaeth Gymreig. Ar hyd a lled y safle, roedd grwpiau o bobl ifanc yn symud gyda phwrpas, yn pefrio â chyffro gwaith awyr agored – efallai’n trwsio ffens, yn rheoli’r coetir, neu’n helpu i godi ffrâm bren.
Unwaith eto, roedd yn teimlo fel camu i mewn i enghraifft fyw o’r math o ddyfodol rydyn ni’n siarad amdano mor aml ond yn anaml yn ei weld yn ymarferol. Mae Down to Earth yn dangos beth sy’n bosibl pan nad yw natur yn gefndir, ond yn greiddiol i’n ffordd o fyw. Ac er bod adeiladu cynaliadwy a rheoli tir wrth wraidd y cyfan, nid y tir yn unig sy’n cael ei adfer – mae hyder, perthnasoedd a photensial hefyd yn cael eu hadfer.
Ers bron i ddau ddegawd, mae Down to Earth wedi bod yn herio’r syniad bod trawsnewid cymdeithasol a thrawsnewid ecolegol yn dasgau ar wahân. Yma, maen nhw wedi’u cydblethu’n ddwfn. Nid dim ond cymryd rhan mae’r bobl hyn o bob oed, yn aml o gefndiroedd ‘bregus’ ac wedi’u hymylu – maen nhw’n cyd-greu. Nid dim ond y tai crwn atgofus neu’r tai effaith isel sy’n cael eu hadeiladu ar y safle ac ar draws y cymunedau y maen nhw’n eu cefnogi – mae perthyn, sgiliau, grymuso a phwrpas hefyd yn cael eu hadeiladu. Ac mae ganddyn nhw dystiolaeth i ddangos ei fod yn gweithio.
Wrth i ni adeiladu momentwm y tu ôl i Wasanaeth Natur Cymru, mae enghreifftiau fel Down to Earth yn helpu i ddod â’r dyfodol rydyn ni’n gweithio tuag ato i’r golwg. Rydyn ni’n siarad am newid system a’r symudiad i economi llesiant neu economi bositif o ran natur, ond sut mae hynny’n teimlo ar lawr gwlad? Mae Down to Earth yn helpu i ateb hynny. Nid gyda phapurau polisi, ond gyda phren, pridd, tosturi a chymuned. Wrth wneud hynny, mae’n ymgorffori rhywbeth y mae’n rhaid iddo fod yn ganolog i’n hymdrechion os ydyn ni eisiau cynnal y mudiad hwn – ailgynnau’r llawenydd a’r ystyr sy’n dod o weithio gyda natur, nid dim ond drosto.
Nid diffyg atebion yw un o’r rhwystrau mwyaf sy’n ein hwynebu, nac hyd yn oed diffyg ewyllys. Ond yn hytrach y datgysylltiad – rhwng pobl a natur, rhwng damcaniaeth ac ymarfer, rhwng y gwerthoedd rydyn ni’n dweud sydd gennym a’r systemau rydyn ni’n eu cynnal. Mae Down to Earth yn un o’r mentrau hynny sy’n helpu i bontio’r datgysylltiad hwn. Mae’n mynd ymlaen â’r gwaith, gan ddangos beth all dull integredig, seiliedig ar le, o ymdrin â natur, dysgu, lles a chymuned ei gyflawni.
Nid gweithredu ar yr hinsawdd, cadwraeth, addysg a lles yw hyn sy’n cael eu trin fel heriau ar wahân ac sydd angen atebion ar wahân. Yr hyn sy’n digwydd pan fyddwn ni’n gweithredu yn ôl y gwerthoedd sy’n eu cysylltu sy’n cyfri. Nid yw’r canlyniadau hyn ar wahân – rhain yw canlyniad naturiol ffyrdd o weithio sy’n anrhydeddu pobl, lle a phlaned gyda’i gilydd.
Llwyddodd yr ymweliad i fy atgoffa i ganolbwyntio ar botensial. Mae’r argyfyngau ecolegol a hinsawdd yn real, yn frys ac yn gymhleth. Mae’r her yn enfawr. Ond felly hefyd y posibilrwydd. Mae ‘potensial’ yn aml yn teimlo fel grym byw mewn natur – yn bresennol ychydig o dan yr wyneb. Hyd yn oed lle mae dirywiad, gwelwn natur yn adennill ac yn codi eto, o gael hanner cyfle. A phan fyddwn yn cysylltu pobl â gwaith adnewyddu, yn aml gwelwn adferiad ynddyn nhw hefyd.
Ond os ydyn ni eisiau i’r genhedlaeth nesaf gofleidio a chynnal dyfodol positif i natur, mae angen iddyn nhw allu ei weld yn gyntaf. Dro ar ôl tro, trwy ymchwil a sgyrsiau, rydyn ni’n clywed gan bobl ifanc sydd eisiau gwneud rhywbeth go iawn – sydd eisiau dysgu, cyfrannu, teimlo’n gysylltiedig ac wedi’u grymuso. Nid diddordeb yw’r rhwystr – ond gwelededd.
Yn rhy aml, nid yw’r cyfleoedd hyn yn weladwy i bobl ifanc na’u rhwydweithiau cymorth – rhieni, athrawon, cynghorwyr gyrfaoedd – felly dydyn nhw ddim hyd yn oed yn y ffrâm. Un o nodau craidd Gwasanaeth Natur Cymru yw newid hynny. Rydyn ni eisiau taflu goleuni ar yr ecosystem anhygoel o sefydliadau, mentrau a chyfleoedd sydd eisoes yn bodoli – gan gynnwys Down to Earth – a’u dwyn ynghyd o dan faner Gwasanaeth Natur Cymru sy’n uno, gan greu hunaniaeth gyfunol fwy adnabyddus ar gyfer y rhwydwaith hwn o gyfleoedd, i helpu mwy o bobl i ddod o hyd i’w ffordd i mewn, a mwy o gyllidwyr a sefydliadau i ddeall gwerth yr hyn sy’n digwydd.
Rydyn ni eisiau adeiladu rhwydwaith ledled y wlad lle mae prosiectau fel Down to Earth yn rhan o fudiad cenedlaethol gweladwy, hygyrch, cydgysylltiedig i wasanaethu natur. Mudiad sy’n codi proffil gwaith sy’n seiliedig ar natur, yn grymuso mwy o bobl â’r sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth i gymryd rhan, ac yn helpu i adeiladu sylfaen gryfach ar gyfer adfer natur ledled Cymru.
Mae prosiectau fel Down to Earth yn ein hatgoffa nad yw newid system yn ymwneud â pholisïau neu strwythurau yn unig. Mae’n ymwneud â newid yr hyn y mae pobl yn credu sy’n bosibl. Trwy esiampl fyw a’r straeon maen nhw’n eu siapio, maen nhw’n ehangu ein gweledigaeth o sut y gall ein bywydau a’n dyfodol edrych. Oherwydd pan fydd pobl yn gallu ei weld, gallan nhw gredu ynddo. A phan fyddan nhw’n credu ynddo, gallan nhw ddod yn rhan ohono.
I ddarganfod mwy am Brosiect Down To Earth, ewch i Prosiect Down to Earth – Gwneud pethau da gyda’n gilydd
I ddysgu mwy am Wasanaeth Natur Cymru, ewch i Gwasanaeth Natur Cenedlaethol Cymru

