Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu blaenoriaethau newydd ar gyfer eu Strategaeth Bwyd Cymunedol gyda’r bwriad o geisio datblygu system bwyd sydd yn wydn ac sy’n hyrwyddo bwyta iach a thyfu bwyd mewn modd cynaliadwy. Yn ôl Llywodraeth Cymru mae’r strategaeth yn rhan allweddol o’u Rhaglen Lywodraethu, gan ganolbwyntio yn benodol ar gysylltu cynhyrchwyr Cymru gyda phawb arall, cefnogi prosiectau bwyd sy’n cael eu harwain gan y gymuned a sicrhau fod bwyd iach a maethlon ar gael i bawb.
Mae’r cynllun yn cynrychioli buddsoddiad gwerth £2 filiwn yn y flwyddyn 2025-26, gyda’r gyllideb wedi ei sicrhau hyd at fis Mawrth 2028. Ers 2022, mae Partneriaethau Bwyd Lleol wedi ehangu i gynnwys pob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’r partneriaethau hyn yn cydlynu systemau bwyd lleol ac yn mynd i’r afael â thlodi bwyd, gwella iechyd y cyhoedd, a chefnogi twf gwyrdd ac addysg. Mae’r strategaeth am weld cynnydd o 50% yng ngwariant y sector gyhoeddus ar fwyd Cymreig a chyflenwyr Cymreig erbyn 2030.
Mewn datganiad, dywedodd Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog sydd hefyd â chyfrifoldeb dros Faterion Gwledig:
“Mae bwyd wrth wraidd ein bywydau i gyd. Mae’r tir yng Nghymru, gyda’i harddwch a’i godidogrwydd, yn dod â llawer o gyfleoedd a dyna pam mae ein cynnyrch ymhlith y gorau yn y byd.
Mae’r hyn rydyn ni’n ei fwyta yn effeithio nid yn unig ar ein hiechyd corfforol a meddyliol, ond hefyd ar ein hamgylchedd a’n diwylliant, ac mae o fudd i’n cymunedau. Mae’r strategaeth hon yn cael ei llywio gan y lleisiau a’r cymunedau lleol ar draws ein tir a’n moroedd.”
Dywedodd Katie Palmer, Pennaeth Food Sense Wales:
“Ein gweledigaeth fel sefydliad yw helpu i greu system fwyd sy’n dda i bobl ac i’r blaned, ac rydyn ni’n croesawu cyhoeddi Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru.
Mae gwaith gwych eisoes yn mynd rhagddo o fewn gwahanol sefydliadau ledled y wlad, ac rydyn ni’n gweld hyn yn gyfle gwych i adeiladu ar hyn drwy ddull mwy cydgysylltiedig a strwythuredig.
Yn y pen draw, bydd hyn yn gyfle i randdeiliaid weithio gyda’i gilydd i gryfhau systemau bwyd lleol ac i sicrhau’r amrywiaeth a’r gwydnwch sydd eu hangen yn fawr ar ein system fwyd mewn ffordd sy’n cefnogi lles diwylliannol, economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol pobl yng Nghymru.”
Bydd y strategaeth yn cefnogi garddwriaeth ar raddfa fechan drwy gyfrwng grantiau, hyfforddiant a diweddariadau i fframweithiau cynllunio er mwyn hwyluso mentrau tyfu cymunedol. Bydd Grŵp Cynghori Gweinidogol newydd hefyd yn cael ei sefydlu er mwyn sicrhau gweithrediad effeithiol o’r cynllun.

