Y Joseph Rowntree Foundation yn galw ar lywodraethau Cymru a’r DU i weithredu wrth i adroddiad newydd ar dlodi yng Nghymru gael ei gyhoeddi

June 2025 | Sylw, Tlodi gwledig

Mae’r Joseph Rowntree Foundation wedi galw ar lywodraethau Cymru a’r DU i weithredu i godi cannoedd o filoedd o bobl allan o dlodi dwfn yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad ‘Tlodi yng Nghymru 2025’ mewn cydweithrediad a Sefydliad Bevan. Mae’r adroddiad yn nodi taw prin iawn yw’r cynnydd sydd wedi bod mewn lleihau tlodi dros yr 20 mlynedd diwethaf, gan ddangos fod cyfraddau tlodi wedi aros oddeutu 21-22% yn ystod y cyfnod hwnnw.

Ymysg canfyddiadau’r adroddiad yw’r ffaith fod bron i hanner miliwn o bobl mewn ‘tlodi dwys’ rhwng 2020 a 2023 gyda 310,000 yn byw mewn ‘tlodi dwys iawn’. Diffinnir ‘tlodi dwys’ fel teuluoedd sy’n byw ar o dan 50% o’r incwm canolrifol i deuluoedd, lle ‘tlodi dwys iawn’ yw’r rheiny sy’n byw o dan 40%. Mae’r adroddiad yn dangos y byddai cwpl gyda 2 blentyn oedran ysgol gynradd yn byw yn 2020-23 angen ar gyfartaledd £13,500 y flwyddyn yn ychwanegol er mwyn dianc rhag tlodi.

Plant oedd y grŵp a ganfuwyd i fod fwyaf tebygol i brofi tlodi parhaus ar gyfradd o 18%. Mae’r adroddiad yn datgan yn y tair o’r pedair blynedd diwethaf fod:

  • 1 ym mhob 6 o blant yn byw mewn tlodi (12%).
  • 13% o bensiynwyr yn byw mewn tlodi.
  • 11% o oedolion oedran gweithio yn byw mewn tlodi.

Mae’r ffigurau hefyd yn dangos fod:

  • Mwy na 1 mewn 5 o bobl yng Nghymru (22%) yn byw mewn tlodi – 700,000 i gyd.
  • O’r rhain, mae 400,000 yn oedolion oedran gweithio (21%), 200,000 yn blant (31%) a 100,00 yn bensiynwyr (16%).
  • Gwelir y cyfraddau uchaf o dlodi plant fesul ardal awdurdod lleol ym Mlaenau Gwent (34%), Merthyr Tydfil, Ceredigion a Casnewydd (32%) ac Ynys Môn a Sir Benfro (31%).

Fe wnaeth ymchwil wnaeth y Joseph Rowntree Foundation ei gynnal yn gynharach eleni amlinellu hyd yn oed pe bai twf economaidd cryf yn dyfod, os na fyddai na unrhyw weithredu pellach yna y byddai tlodi plant yng Nghymru yn cyrraedd 34% erbyn y flwyddyn 2029-30, y gyfradd uchaf a ragamcanir o holl wledydd y DU.

Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu’r gwahaniaethau mawr mewn disgwyliad oes rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig, a’r risg anghymesur o galedi y mae pobl anabl yng Nghymru yn ei wynebu, gyda 32% o bobl anabl yn byw mewn tlodi. Mae oedolion oedran gweithio anabl bron i ddwywaith yn fwy tebygol o fwy mewn tlodi o gymharu â’r rheini nad ydynt yn anabl. Mae cyfraddau tlodi ar gyfer teuluoedd a phlant anabl o gymharu â rheini lle nad oes gan unrhyw blentyn anabledd yn bron i ddwbl hefyd.

Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi sylw i’r problemau penodol sy’n gysylltiedig â thlodi gwledig. Amlinellir costau uchel a chynyddol byw mewn ardaloedd gwledig, ac mae’r adroddiad yn nodi fod hyn yn cael ei waethygu gan brisiau tai uwch o gymharu â chyflogau pobl sy’n byw yn yr ardaloedd hyn. Mae’r pynciau eraill a godwyd yn cynnwys:

  • Mynediad cyfyngedig i drafnidiaeth fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig.
  • Costau ynni nwy oddi ar y grid sydd wedi cynyddu’n fwy na nwy a thrydan.
  • ‘Tlodi cudd’ yng nghefn gwlad Cymru, ‘wedi’i waethygu gan stereoteipiau diwylliannol a rhwydweithiau cymorth annigonol’.
  • Lleihad mewn argaeledd cartrefi i’w rhentu o ganlyniad i drosi tai yn dai gwyliau.

Mae’r adroddiad yn dweud fod mynd i’r afael a’r materion hyn yn gofyn ymateb polisi cynhwysfawr a newidiadau strwythurol all gefnogi’r rheini sy’n byw mewn tlodi mewn ardaloedd gwledig yn effeithlon.

Mewn datganiad, dywedodd Dr Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan:

“Mae’n syfrdanol nad oes yna unrhyw gynnydd wedi bod i leihau tlodi yng Nghymru yn yr ugain mlynedd diwethaf. Yn waeth na hyn hyd yn oed, mae mwy o bobl mewn tlodi dwys nag erioed o’r blaen, wedi’u gorfodi i ddefnyddio banciau bwyd, methu a chynhesu eu cartrefi ac yn gofalu am bob ceiniog.

Mae’r adroddiad yn dangos taw’r achosion creiddiol ar gyfer hyn yw toriadau i nawdd cymdeithasol ynghyd a diffyg difrifol mewn swyddi da a chartrefi fforddiadwy. Mae’r camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i liniaru tlodi i’w croesawu, ond mae yna lawer mwy i’w wneud.

Wrth i bleidiau gwleidyddol baratoi ar gyfer yr etholiad Senedd nesaf, rydym yn erfyn arnynt i ymrwymo i weithredu ymarferol y mae modd ei ddarparu er mwyn rhoi terfyn ar dlodi.”

Dywedodd Chris Birt, Cyfarwyddwr Cyswllt JRF ar gyfer yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon:

“Dylai tlodi cynyddol a chyfradd tlodi plant o bron i un ym mhob tri yng Nghymru ddeffro Llywodraeth y DU a’r holl bleidiau sydd am ffurfio’r llywodraeth nesaf yng Nghymru. Mae gan y Senedd bwerau sylweddol gall gyfrannu at wellau safonau bywyd pobl yng Nghymru. Mae lleihau costau, gwella cysylltedd cymunedau, darparu cartrefi fforddiadwy a chwalu rhwystrau cyflogaeth oll yn bethau gallent ei neud i leihau tlodi.

Eto rhaid i faint yr her dderbyn ymateb o’r un maint. Mae’r un peth yn wir ynghylch Llywodraeth y DU wrth gwrs. Eu cyfrifoldeb hwythau yw’r system nawdd cymdeithasol carpiog, a hyn sy’n achosi llawer o’r caledi. Lle da i ddechrau gwyrdroi hynny byddai gosod y cyfyngiad dau blentyn yn y gorffennol mor fuan â phosib.

Mae yna lawer o waith i’w wneud gan lywodraethau Cymru a’r DU, ond y wobr ar gyfer hynny yw Cymru lle gall pobl archwilio eu potensial a byw’n rhydd rhag caledi – rhywbeth sydd ymhell o fod yn realiti i lawer iawn yn ormod o bobl heddiw.”

I ddarllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd, dilynwch y ddolen hon i wefan y Joseph Rowntree Foundation.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This