Mae Cyngor Sir Gâr a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi cyhoedd eu bod wedi ffurfio partneriaeth er mwyn cynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl sydd yn gweithio â phlant a phobl ifanc i ddysgu neu wella eu Cymraeg. Mae’r cam yn dilyn Cynllun Strategol y Gymraeg y Cyngor, sydd a’r nod o gynyddu’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir a’i gryfhau ar gyfer y dyfodol.
Daw’r cyhoeddiad mewn cyfnod o dwf i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Yn ôl eu hystadegau hwyrhau, mae mwy o bobl yn dysgu Cymraeg drwy’r sefydliad nag erioed o’r blaen. Fe wnaeth 18,330 gwblhau cwrs drwy’r Ganolfan yn y flwyddyn 2023-2024, sy’n gynnydd o 45% o gymharu â’r data swyddogol cyntaf a gyhoeddwyd gan y Ganolfan ar gyfer 2017-2018.
Bydd amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddiant yn cael eu cynnig fel rhan o’r bartneriaeth, gyda darpariaeth ar gyfer gwahanol lefelau o allu Cymraeg. Bydd tiwtor Dysgu Cymraeg penodol ar gael i gefnogi’r gweithlu addysg a hefyd tiwtor wedi eu lleoli yn y Cyngor er mwyn darparu gwersi i staff sy’n gweithio â phlant a phobl ifanc.
Bydd modd i’r rheini sydd yn cymryd rhan gael mynediad at ddarpariaeth ehangach y Ganolfan, gan gynnwys cyrsiau wyneb yn wyneb, cyrsiau hunan-astudio ar-lein a dosbarthiadau rhithiol. Bydd cynllun Cymraeg yn y Cartref ar gael hefyd er mwyn cefnogi rhieni, gofalwyr a gwarchodwyr i gryfhau eu Cymraeg.
Mewn datganiad dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Addysg a’r Gymraeg – Y Cynghorydd Glynog Davies:
“Rwy’n croesawu’n fawr y bartneriaeth strategol hon gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol fydd yn hynod o bwysig dros y blynyddoedd nesaf wrth i’r awdurdod symud ymlaen gyda’n dyheadau o ran addysg Gymraeg.”
Dywedodd Meinir Ebbsworth, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
“Mae’r bartneriaeth yn rhoi ffocws ar dair elfen greiddiol, sef y ddarpariaeth yn yr ysgol, y modd y gall y cartref gefnogi datblygiad y Gymraeg, yn ogystal â gwasanaethau eraill sy’n cefnogi plant a phobl ifanc.
Dyma gynllun arloesol, gyda’r Ganolfan yn plethu ei gwasanaethau amrywiol â chynlluniau strategol hir-dymor, er mwyn cynorthwyo’r Cyngor i wireddu targedau Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg.”
I ddysgu mwy am y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, dilynwch y ddolen hon i’r wefan Dysgu Cymraeg.

