Gwefan newydd yn rhoi sylw i iechyd afonydd Gorllewin Cymru

June 2025 | Natur a hinsawdd, O’r afon i’r môr, Polisi gwledig, Sylw

Mae gwefan newydd wedi’i lansio er mwyn dangos sut y mae sefydliadau yng Ngorllewin Cymru yn cydweithio er mwyn sicrhau iechyd afonydd yr ardal a’r modd y gall trigolion lleol helpu i’w hadfer.

Mae’r wefan yn canolbwyntio ar waith Byrddau Rheoli Maetholion Gorllewin Cymru (BRhMGC) a gafodd ei sefydlu er mwyn diogelu’r Afon Tywi, Afon Teifi ac Afonydd Cleddau. Mae’r rhain yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (SACs) ac yn methu i gyrraedd targedau ffosfforws ar hyn o bryd. Mae hyn yn rhoi ecosystemau mewn perygl ac yn cynrychioli bygythiad i fywyd gwyllt yn y rhanbarth.

Mae’r Byrddau Rheoli Maetholion Gorllewin Cymru wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei arwain gan awdurdodau lleol Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Maent yn dod â chyrff cyhoeddus, cyfleustodau, grwpiau amgylcheddol a lleisiau lleol ynghyd i drin a thrafod ac i lunio atebion hirdymor i wella ansawdd dŵr ynghyd a chefnogi datblygu cynaliadwy.

Mewn datganiad, dywedodd Gail Pearce-Taylor, Rheolwr Rhaglen Bwrdd Rheoli Maetholion, Tywi, dalgylchoedd ACA afon Teifi a Cleddau:

“Mae’r wefan hon yn ffordd o rannu popeth rydyn ni wedi’i ddysgu hyd yma a dod â phobl gyda ni wrth i ni adeiladu Cynlluniau Rheoli Maetholion ar gyfer y dyfodol. Dim ond trwy weithio gyda’n gilydd y gellir mynd i’r afael â’r her o lygredd ffosfforws – a dyna sy’n gwneud y Byrddau hyn mor arbennig.”

Mae’r wefan yn cynnwys data manwl wedi’i fapio gan GIS, crynodebau annhechnegol, adnoddau ar gyfer tirfeddianwyr a datblygwyr, a chanfyddiadau gwyddoniaeth dinasyddion. Gall pobl hefyd ddarganfod sut i ymuno â grwpiau rhanddeiliaid BRhMGC neu gymryd rhan mewn ymgynghoriadau sydd i ddod.

Mewn datganiad ar y cyd gan Gadeiryddion Byrddau Rheoli Maetholion y tri afon, dywedodd Cynghorydd Sir Ceredigion Clive Davies, Cadeirydd BRhM Afon Teifi; Cynghorydd Sir Gaerfyrddin Carys Jones, Cadeirydd Bwrdd BRhM Afon Tywi; a Chynghorydd Sir Benfro Jacob Williams, Cadeirydd Bwrdd BRhM Afon Cleddau:

“Mae iechyd ein hafonydd yn sail i bopeth – ein bywyd gwyllt, ein heconomi a’n cymunedau. Mae’n hanfodol ein bod yn cymryd agwedd ragweithiol a chydweithredol. Mae’r wefan newydd hon yn rhoi’r offer a’r wybodaeth i bobl fod yn rhan o’r ateb.”

Mae Bwrdd Rheoli Maetholion Gorllewin Cymru hefyd wedi cyhoeddi eu bod yn cynnal sesiynau ymgysylltu yn yr haf.

Bydd stondin yng Ngŵyl Afon Tywi ddydd Sadwrn 19 Gorffennaf, yn Sioe Frenhinol Cymru ddydd Llun 21 Gorffennaf, ac yn Sioe Sir Benfro (Stondin FUW) ddydd Mercher 20 a dydd Iau 21 Awst. Bydd mwy o fanylion am y digwyddiadau hyn yn cael eu cyhoeddi ar gael ar y wefan yn fuan.

Gallwch ymweld a’r wefan a dysgu beth allwch chi ei wneud i helpu drwy ddilyn y ddolen hon.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This