Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi bwriad i weithredu deallusrwydd artiffisial ar draws ystod o wasanaethau cyhoeddus

September 2025 | AI ac Awtomeiddio, Sylw

Mae Rebecca Evans AS, yr Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i Lywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bydd y llywodraeth yn dechrau archwilio ffyrdd o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i helpu i weinyddu a gweithredu ystod o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Mewn datganiad ysgrifenedig nododd Rebecca Evans fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Swyddfa Deallusrwydd Artiffisial ym mis Mehefin eleni. Nod yr adran yw gwella gweithdrefnau mewnol y llywodraeth ynghylch deallusrwydd artiffisial ac i lunio polisïau ynghylch deallusrwydd artiffisial yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf yn y maes ac i gydlynu’r gwaith o weithredu’r polisïau hyn gyda phartneriaid a rhanddeiliaid amrywiol. Nodwyd hefyd y bydd y Grŵp Cynghori ar AI strategol yn cwrdd am yr eildro yn ddiweddarach yn y mis er mwyn trafod sgiliau a blaenoriaethau deallusrwydd artiffisial Cymru. Yn ogystal, cyhoeddwyd bod cyllid penodol wedi ei benodi i gefnogi cyfres o fentrau bydd yn gweithredu deallusrwydd artiffisial mewn modd ‘cyfrifol’ ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Dywedodd Rebecca Evans:

“Bydd y cyllid yn helpu i gyflawni’r prosiectau yn gyflym ac yn sefydlu sylfaen gadarn ar gyfer gweithgarwch AI yn y dyfodol. Yr amcan cyffredinol yw dangos yn glir y manteision ymarferol y gall AI eu cynnig wrth wella darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Bydd pob prosiect yn llunio adroddiad ar y gwersi a ddysgwyd ac yn rhannu arferion gorau ag eraill ar draws sector cyhoeddus Cymru.” 

Yn ôl y datganiad bydd y prosiectau yn helpu i wireddu’r amcanion canlynol:

  • datblygu dealltwriaeth sylfaenol gyfredol o weithgareddau sy’n gysylltiedig ag AI ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru;
  • cynnal gwerthusiad o’r offer trawsgrifio AI sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd ar draws rhannau o’r sector cyhoeddus yng Nghymru, mewn meysydd fel asesiadau gofal cymdeithasol, i helpu i lywio penderfyniadau buddsoddi a chyflwyno yn y dyfodol;
  • cyflwyno platfform a fydd ar gael i’r sector cyhoeddus brofi a defnyddio offer AI, fel y rhai a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a defnyddio offeryn dylunio cynnwys wedi’i alluogi gan AI i eraill ei ddefnyddio;
  • datblygu prawf o gysyniad i brofi dichonoldeb cynorthwyydd sgwrsfot ar gyfer gwasanaeth newydd StatsCymru Llywodraeth Cymru, gan ei gwneud hi’n haws i bobl a sefydliadau ddod o hyd i setiau data a ffigurau defnyddiol heb orfod chwilio trwy lawer o wybodaeth gymhleth;
  • datblygu canllawiau i’w defnyddio gan awdurdodau lleol ac eraill ar y ffordd orau o gyflwyno AI yn effeithlon ac yn effeithiol i’w gwasanaethau;
  • darparu hyfforddiant ar AI i weithwyr y sector cyhoeddus fel y gallant ei ddefnyddio;
  • pharhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar ei set offer wedi’i alluogi gan AI “Humphrey” i asesu sut y gellir sicrhau bod yr offer y mae’n eu datblygu ar gael yng Nghymru a sut y gellir eu defnyddio yma.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Prif Chwip a’r Trefnydd hefyd wedi cytuno i ddarparu cyllid ar gyfer undeb credyd Cymreig i gymryd rhan mewn prosiect deallusrwydd artiffisial cydweithredol bydd yn cydweithio gyda chwmni technegol a dau fenthyciwr arian. Y nod yw archwilio’r modd y gall defnyddio deallusrwydd artiffisial symleiddio swyddogaethau’r swyddfa graidd ac awtomeiddio rhai elfennau o weithrediadau’r swyddfa gefn, er mwyn galluogi staff i dreulio mwy o amser i wella’r broses fenthyca a phrofiad cwsmeriaid. Y bwriad yw rhannu’r hyn a ddysgir o’r prosiect gyda Llywodraeth Cymru ac undebau credyd eraill yng Nghymru wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.

Mae’r datganiad hefyd yn nodi fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn mwy na £440,000 gan Gronfa Arloesi Cynhwysiant Digidol Llywodraeth y DU ar gyfer y flwyddyn ariannol hon (2025/26) i gefnogi’r nod o osod safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol (MDLS). Mae MDLS yn feincnod ar gyfer yr hyn sydd yn angenrheidiol i gynnwys pobl yn ddigidol, gan gynnwys pethau fel mynediad at dechnoleg a chysylltedd, ynghyd a’r sgiliau sydd eu hangen i ddefnyddio’r dechnoleg hon. Bydd y llywodraeth yn comisiynu arolwg i amcangyfrif faint o’r rheini sydd dros 16 mlwydd oed yng Nghymru sy’n byw islaw’r MDLS.

Mae’r datganiad yn crybwyll cyhoeddiad Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg fod Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI) wedi cadarnhau buddsoddiad pellach o £26 miliwn o bunnau dros y pum mlynedd nesaf ar gyfer Partneriaeth Ymchwil Data Gweinyddol Cymru, gyda’r nod o amlygu cryfderau dulliau o ddefnyddio data yn ddiogel, moesol ac arloesol er mwyn cefnogi ymchwil yng Nghymru.

Cyhoeddodd Rebecca Evans hefyd fod y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn cael eu hintegreiddio yn Llywodraeth Cymru. Sefydlwyd y ganolfan yn 2020 fel corff hyd fraich i Lywodraeth Cymru i helpu gwireddu amcanion y Strategaeth Ddigidol i Gymru.

Yn ôl y cofnodion diweddaraf sydd ar gael ar gyfer cyfarfod Bwrdd Canolfan Gwasanaethau Digidol, sef cyfarfod ym mis Ebrill 2025, mynegodd y bwrdd ofidion ynghylch gallu’r sefydliad i weithredu’r rhaglen waith uchelgeisiol a’r angen ar arbenigedd technolegol penodol ar y sefydliad. Mae modd darllen cofnodion y cyfarfod hwnnw drwy ddilyn y ddolen hon.

Dywedodd Rebecca Evans am y cyhoeddiadau:

“Mae’r rhain yn rhoi syniad o ehangder y gweithgarwch AI a digidol yr ydym yn eu hysgogi ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n hanfodol bod gan y sector cyhoeddus ei hun y sgiliau a’r gallu AI cywir i fanteisio ar y cyfleoedd sydd gan AI i’w cynnig wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. 

Rwyf wedi penderfynu, felly, fod budd sylweddol o alinio sgiliau ac adnoddau’r Swyddfa AI â sgiliau y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS). O ganlyniad, bydd swyddogaethau’r CDPS yn cael eu hintegreiddio yn Llywodraeth Cymru. Rwy’n disgwyl i hyn gael ei gyflawni erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf. 

Bydd cydgrynhoi adnoddau yn y modd hwn yn symleiddio ac yn cryfhau galluoedd digidol ac AI Llywodraeth Cymru, yn ogystal â lleihau cymhlethdod a dyblygu. Bydd yn dod â phobl sy’n llunio polisi a’r rhai sy’n ei gyflawni ynghyd. Bydd yn sicrhau mwy o integreiddio ac yn dod â mwy ffocws i’n gwaith gan gynnal yr arbenigedd digidol ac AI a’n huchelgais am wella newidiadau digidol yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru.”

Gallwch ddysgu mwy am waith y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This