Nol ym mis Gorffennaf eleni, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi’r Strategaeth Troseddau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (2025 i 2028) sy’n cynrychioli cydweithrediad rhwng y llywodraeth a gwasanaethau heddlu Cymru. Dywed y Llywodraeth fod y strategaeth yn adeiladu ar yr hyn wnaeth gael ei gyflawni drwy gyfrwng y strategaeth ar y cyd cyntaf, a gyhoeddwyd yn 2023.
Cyn cyhoeddi’r strategaeth honno, penodwyd y Cydlynydd Troseddau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad cyntaf yng Nghymru Rob Taylor yn 2021. Mae dyletswyddau’r Cydlynydd yn cynnwys hwyluso gwaith y timau troseddau gwledig sydd i’w canfod ym mhob un o ranbarthau heddlu Cymru a chyd weithio gyda phartneriaid mewn amryw o sefydliadau o gyrff cyhoeddus i fynd i’r afael a throsedd cefn gwlad. Daw cyhoeddiad y strategaeth newydd ochr yn ochr ag ymrwymiad i ariannu rôl y Cydlynydd nes o leiaf 2028.
Diffinnir troseddau bywyd gwyllt a chefn gwlad fel troseddau penodol sydd fel arfer yn digwydd yng nghefn gwlad. Mae’r rhain gan amlaf yn effeithio ar ffermwyr a chymunedau dwysedd poblogaeth isel ynghyd a bywyd gwyllt, cynefinoedd naturiol a threftadaeth. Gall hyn gynnwys dwyn anifeiliaid, potsio, hela anghyfreithlon, gwenwyno, tipio anghyfreithlon, ymwared a gwastraff a dinistrio cynefin. Mae’r rhain yn droseddau y gellir eu gweld yn digwydd mewn trefi hefyd, ac o’r herwydd mae diffinio union yr hyn sy’n cymhwyso fel ‘troseddau cefn gwlad’ fod yn gallu bod yn dasg anodd. Eto gall amgylchiadau’r troseddau, yr ymateb i’r troseddau hynny ynghyd a’r mynediad at gymorth yr heddlu sydd ar gael i’r cymunedau a effeithir fod yn wahanol iawn mewn ardaloedd gwledig. Nod y strategaeth yw darparu fframwaith ar gyfer deall y cyd-destun hwnnw, ac i gyflwyno rhai o ganfyddiadau gwaith ymchwil ac ymgysylltu sydd wedi ei gynnal yn ystod oes y prosiect hyd yn hyn.
Mewn rhagair ar y cyd i’r strategaeth, dywedodd Nigel Harrison, Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru Arweinydd NPCC ar gyfer Troseddau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, a Huw Irranca–Davies MS, Dirprwy Brif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru:
“Rydym yn hyderus mai cydweithio yw’r dull gweithredu cywir i Gymru – a hynny rhwng Llywodraeth Cymru a’r heddlu, a gyda’n partneriaid eraill yn y sector statudol a’r sector cyrff anllywodraethol. Hebddynt, ni fyddai llawer o’r gwaith hwn yn bosibl. Felly, mae cynnwys dwsinau o sefydliadau ar draws y meysydd â blaenoriaeth yn allweddol i sicrhau llwyddiant o hyd.
Fel y gellid ei ddisgwyl, mae gwersi allweddol wedi’u dysgu o’r Strategaeth dwy flynedd gyntaf, ac mae’r gwersi hyn, ochr yn ochr â chanlyniadau’r ymgynghoriad â rhanddeiliaid, wedi llywio’r broses o ddatblygu’r dull strategol newydd hwn. Mae’n amlwg bod rôl arloesol y Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt, sydd bellach yn ei rôl ers bron pum mlynedd, yn parhau i fod yn hollbwysig, ac felly, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo cyllid am dair blynedd arall, i gyd–fynd â chyfnod y Strategaeth hon.
Mae’r ymrwymiad i gydblethu â strategaethau troseddau bywyd gwyllt a chefn gwlad ar lefel y DU yn parhau er mwyn i ni allu bod yn effro i dueddiadau cenedlaethol a rhyngwladol, ac i sicrhau bod canlyniadau allweddol yn cael eu rhannu i’r naill gyfeiriad a’r llall. Fodd bynnag, rydym hefyd yn parhau i fod yn uchelgeisiol o ran yr hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio ac ymateb i’r materion sy’n benodol ac yn briodol i Gymru, fel bod modd amddiffyn ein bywyd gwyllt, ein hamgylchedd a’n cymunedau gwledig yn well.”
I ddarllen y strategaeth yn ei gyfanrwydd, dilynwch y ddolen hon.

