Cyfle i ddysgu mwy am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy mewn sesiynau gwybodaeth wedi’u trefnu gan Lywodraeth Cymru

September 2025 | Polisi gwledig, Sylw

Dros yr hydref bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau bydd yn rhannu gwybodaeth am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ac yn cynnig cyfle i’r rheini sy’n gweithio yn y diwydiant amaeth ac eraill i ofyn cwestiynau a dysgu mwy gan swyddogion o’r llywodraeth. Bydd cynrychiolwyr o’r Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm a Chyswllt Ffermio ar gael i roi cyngor ar sut i baratoi er mwyn bod yn barod ar gyfer dechrau’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ym mis Ionawr 2026.

Nid oes rhaid cofrestru o flaen llaw er mwyn mynychu, ond mae’r trefnwyr yn gofyn i’r rheiny sy’n gallu gwneud i wneud hynny os yn bosib er mwyn mesur diddordeb a sicrhau fod yna ddigon o staff yn bresennol i ateb y galw. Mae modd cofrestru drwy ddilyn y ddolen hon. Bydd y sioeau yn cael eu cynnal rhwng 13:00 a 20:00 ar y dyddiadau canlynol yn y lleoliadau a nodir isod:

  • 30 Medi: Llangollen (Pafiliwn Rhyngwladol, Heol yr Abaty, LL20 8SW)
  • 1 Hydref: Llanfair-ym-Muallt (Hafod a Hendre, Maes y Sioe Frenhinol, LD2 3SY)
  • 2 Hydref: Y Trallwng (Marchnad Da Byw, Buttington Cross SY21 8SR)
  • 7 Hydref: Bangor (Neuadd Reichel, Prifysgol Bangor, LL57 2TW)
  • 8 Hydref: Llanfair-ym-Muallt (Hafod a Hendre, Maes y Sioe Frenhinol, LD2 3SY)
  • 13 Hydref: Aberaeron (Moody Cow, Fferm Bargod, Llwyncelyn SA46 0HL)
  • 14 Hydref: Porthmadog (Clwb Pêl-droed, Y Traeth, LL49 9PP)
  • 22 Hydref: Llanymddyfri (Clwb Rygbi Llanymddyfri, Banc yr Eglwys, SA20 0BA)
  • 23 Hydref: Hwlffordd (Pafiliwn Maes y Sioe, Heol Llwynhelyg, SA62 4BW)
  • 3 Tachwedd: Rhaglan (Neuadd Bentref Llanarth, Heol y Groesonen, NP15 2AU)
  • 4 Tachwedd: Pen-y-bont ar Ogwr (Gwesty’r Heronston, Heol Ewenni, CF35 5AW)

Ni fydd y sioeau teithio yn cynnwys cyflwyniad canolog, ac ni fydd modd i’r staff sy’n bresennol i gefnogi’r ymarfer Cadarnhau Data ar RPW Ar-lein er mwyn cadarnhau manylion cynefin eich fferm. I gael cymorth i gwblhau’r ymarfer Cadarnhau Data, ac i sicrhau apwyntiad er mwyn cael cymorth digidol, mae modd cysylltu â Chanolfan Gyswllt Cwsmeriaid RPW drwy ffonio 0300 062 5004 neu drwy gysylltu ag aelod o dîm y Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm drwy e-bostio farmliaisonservice@gov.wales.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This