Cyngor Gwynedd yn annog trigolion i geisio am grantiau cymunedol

May 2025 | Sylw

Mae Cyngor Gwynedd wedi annog grwpiau cymunedol a gwirfoddol i geisio am grantiau cyfalaf neu refeniw gwerth hyd at £100,000 iddynt gael helpu i wella safon bywyd pobl leol.

Mae yna dri chynllun mae Cyngor Gwynedd yn eu gweinyddu gall fod o fudd i grwpiau cymunedol sef Cronfa Cefnogi Adfywio Cymunedau, Cronfa Cefnogi Cymunedau – Cist Gwynedd a Chronfa’r Degwm.

Mae’r Gronfa Cefnogi Adfywio Cymunedau yn gwahodd ceisiadau cyfalaf a / neu refeniw gwerth rhwng £10,000 a £100,000. Derbyniodd Cyngor Gwynedd gyllideb drwy Raglen Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU er mwyn cefnogi prosiectau bydd yn helpu i adfywio cymunedau. Bwriad y gronfa yw cynnig cefnogaeth ddwys i gefnogi grwpiau newydd mewn ardaloedd a chapasiti cymunedol isel.

Mae’r Gronfa Cefnogi Cymunedau – Cist Gwynedd yn cynnig grantiau hyd at £10,000 ar gyfer cynlluniau sydd yn:

  • Annog cymunedau i gymryd rôl fwy rhagweithiol yn eu hardaloedd
  • Adnabod ac ymateb i anghenion cymdeithasol, ieithyddol a diwylliannol y gymuned
  • Hybu buddsoddiad a datblygiad yr economi leol
  • Gwella lleoliadau sy’n bwysig i gymunedau
  • Cynyddu cyfleoedd gwaith, datblygiad sgiliau ymhlith unigolion o fewn cymunedau a hybu cyfle cyfartal i bawb
  • Cefnogi gwirfoddolwyr a hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli
  • Annog gwarchod a chyfoethogi’r amgylchedd.

Mae Cronfa’r Degwm yn cynnig grantiau hyd at £3,000 i elusennau sydd yn:

  • Hybu gwybodaeth a gwerthfawrogiad o gelfyddydau a llenyddiaeth Cymru
  • Darparu neu gynorthwyo i ddarparu cyfleusterau ar gyfer adloniant neu weithgarwch amser hamdden arall;
  • Hybu diddordeb pensaernïol, hanesyddol neu wyddonol sy’n ymwneud a Chymru

Mae hefyd hyd at £300 ar gael i helpu i gynnal eisteddfodau lleol yng Ngwynedd.

Mewn datganiad dywedodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd:

“Mae grantiau Cist Gwynedd yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau sy’n arwain at gryfhau cymunedau ledled y sir. Dyma gyfle i’n trigolion wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau eu hunain.”

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:

“Mae pobol Gwynedd yn gwneud gwaith hollbwysig i ddod a bwrlwm i’n trefi a phentrefi. Rwyf yn gwybod yn iawn am y gwaith da yma ac y llwyr gwerthfawrogi pa mor anodd yw parhau oherwydd y cyfnod o galedi ariannol rydym yn byw drwyddo, rwyf felly yn annog grwpiau gwirfoddol a mudiadau cymunedol i wneud cais am yr arian hwn, mae gwybodaeth ar wefan y Cyngor.”

Mae modd ymgeisio ar gyfer y cronfeydd drwy ddilyn y ddolen hon. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch gyda swyddfa Cist Gwynedd ar 01286 679870, neu drwy e-bostio: CistGwynedd@gwynedd.llyw.cymru. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 15 Mehefin 2025.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This