Cyhoeddi manylion cychwynnol Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru 2025

June 2025 | O’r pridd i’r plât, Polisi gwledig, Sylw

Bydd y seithfed Gynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru yn cael ei gynnal yn ne Cymru ar y 19eg a’r 20fed o Dachwedd 2025. Bydd lleoliad y gynhadledd yn cael ei gyhoeddi’n fuan.

Mae’r gynhadledd yn dod a ffermwyr, cynhyrchwyr a phobl sy’n ymwneud a systemau bwyd cynaliadwy ynghyd ar draws Cymru ynghyd i drafod a dathlu’r sector bob blwyddyn.

Mae trefnwyr y gynhadledd yn gwahodd syniadau ar gyfer sesiynau i’w cynnal yn y gynhadledd ac yn eiddgar i glywed gan unigolion sydd am gyfrannu i’r digwyddiad. Thema’r digwyddiad bydd ‘Cymunedau, Bwyd a Ffermio yn Cydweithio’. Maent yn chwilio am gyfraniadau bydd yn llenwi sesiwn 1 awr 15 munud o hyd ac yn eiddgar i gael amrywiaeth o wahanol strwythurau i’r cyflwyniadau.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Gorffennaf 2025, ac fe allwch ganfod mwy o wybodaeth a ffurflen gais drwy ddilyn y ddolen hon.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This