Angen i fargeinion twf roi mwy o sylw i’r Gymraeg yn ôl Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth

August 2025 | Arfor, Sylw

Mae ymchwil newydd gan Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth yn dadlau mai ond ystyriaeth ‘ymylol iawn’ a roddwyd i’r Gymraeg wrth ddatblygu bargeinion twf rhanbarthol yng ngogledd, canolbarth a gorllewin Cymru. Mae’r canfyddiad yn seiliedig ar adolygiad o gynnwys dogfennau polisïau datblygu economaidd a gynhaliwyd gan Dr Lewis sy’n dangos diffyg sylfaenol yn yr ystyriaeth a roddir i’r Gymraeg.

Nod Bargeinion Dinesig a Thwf yw cefnogi twf, creu swyddi neu fuddsoddi mewn rhanbarthau penodol. Maent yn cynrychioli pecynnau arian sylweddol sy’n cael eu darparu gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ac fe arweinir y gwaith gan gynghorau lleol sy’n dod ynghyd i ffurfio’r rhanbarthau penodol.

Yn ôl Dr Lewis, mae’r bargeinion twf hefyd yn tueddu i anwybyddu ymyraethau economaidd strategol eraill, yn benodol ARFOR, sydd â gorchwyl penodol o ystyried a chryfhau cysylltiadau rhwng ein dealltwriaeth o’r cyswllt rhwng cyflwr economïau lleol a pharhad a ffyniant yr iaith Gymraeg yng ngogledd a gorllewin Cymru. Mewn datganiad dywedodd Dr Lewis:

“Er bod ARFOR wedi’i greu gydag amcanion iaith penodol mewn golwg dim ond un rhaglen economaidd – ac un cymharol fach – ydy hwn o blith nifer helaeth o ymyriadau.

“Ymhellach gellir tybio y bydd effaith hirdymor mentrau eraill, megis y Bargeinion Dinesig a Thwf, yn llawer mwy pellgyrhaeddol nag unrhyw beth y gellir ei ddisgwyl yn rhesymol o raglen ARFOR, o ystyried y lefelau llawer mwy o fuddsoddi cyhoeddus a phreifat sydd ynghlwm â hwy. Fodd bynnag, hyd yma, ymddengys mai dim ond ystyriaeth ymylol iawn fu’r Gymraeg fel rhan o ddatblygiad y cynlluniau hyn.

“Os ydym am ddod i ddeall yn llawn i ba raddau y mae ystyriaeth o sefyllfa’r Gymraeg yn cael ei integreiddio i’r broses o greu polisi datblygu economaidd, mae’n hollbwysig nad ydym yn canolbwyntio ar ARFOR yn unig. Mae angen ystyried i ba raddau y mae ystyriaeth i’r Gymraeg wedi’i hintegreiddio hefyd yn y broses o lunio mentrau datblygu economaidd eraill sy’n llawer mwy ac yn fwy hirdymor.

“Yn fwy penodol, dylid edrych i ba raddau y mae strategaethau neu fentrau datblygu economaidd allweddol eraill, er enghraifft y bargeinion twf a dinesig rhanbarthol, wedi ystyried eu potensial i gefnogi ardaloedd sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg neu i hwyluso mwy o ddefnydd o’r Gymraeg o ddydd i ddydd.”

Serch y diffyg ymdriniaeth o’r Gymraeg ar ran y bargeinion twf, mae’r astudiaeth yn dangos fod yna welliant graddol wedi bod yn lefel yr ystyriaeth i’r Gymraeg yn strategaethau economaidd Llywodraeth Cymru rhwng 2002 a 2021.

“Mae’r rhagolygon ar gyfer ieithoedd fel y Gymraeg yn gallu cael eu dylanwadu gan benderfyniadau sy’n mynd ar draws pob maes polisi.

“Mae canfyddiadau’r ymchwil yn dangos bod gwahaniaeth amlwg rhwng lefel yr ystyriaeth a roddwyd i’r Gymraeg yn y strategaethau economaidd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru o gymharu â’r dogfennau allweddol a gyhoeddwyd wrth ddatblygu bargeinion twf Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru a De-Orllewin Cymru. Ar lefel y bargeinion twf, roedd yr iaith yn ymylol iawn i’r polisi.

“O ystyried pa mor allweddol yw’r economi i ragolygon yr iaith Gymraeg y gobaith yw y gall canfyddiadau’r ymchwil hybu trafodaeth bellach ar sut i brif ffrydio ystyriaeth o’r iaith i holl raglenni datblygu economaidd Llywodraeth Cymru a’n hawdurdodau lleol.”

Cynhaliwyd ymchwil Dr Lewis fel rhan o waith y Brifysgol ar ffrwd waith Monitro, Gwerthuso a Dysgu rhaglen ARFOR II mewn cydweithrediad gyda Wavehill.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This