Wythnos Hinsawdd Cymru i ddychwelyd yn yr hydref

August 2025 | Sylw

Bydd Wythnos Hinsawdd Cymru yn dychwelyd ym mis Tachwedd eleni, gydag amrywiaeth o sgyrsiau wedi’u eu darlledu ar-lein yn trafod goblygiadau cynyddol newid hinsawdd i Gymru. Rhwng y 3ydd a’r 7fed o Dachwedd bydd modd gwylio trafodaethau a chyflwyniadau gan rhai o arbenigwyr pennaf ym meysydd newid hinsawdd, ecoleg a pholisi’r amgylchedd o Gymru a thu hwnt.

Trefnir yr wythnos o ddigwyddiadau gan Lywodraeth Cymru, ac eleni bydd y sesiynau yn canolbwyntio ar y penderfyniadau rheini y mae gan Gymru’r gallu i arwain arnynt, gan gynnwys penderfyniadau ynghylch teithio, gwresogi tai, tyfu bwyd a gofalu am ein tir.

Bydd manylion llawn Wythnos Hinsawdd Cymru gan gynnwys amserlen o drafodaethau yn cael eu cyhoeddi’n fuan. Yn y cyfamser gallwch ddysgu mwy am waith Wythnos Hinsawdd Cymru a’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ym maes newid hinsawdd drwy eu dilyn ar Facebook, Instagram neu ar Trydar/X.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This