Cymru’n cyrraedd targedau adfer mawndir yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru

August 2025 | Natur a hinsawdd, Polisi gwledig, Sylw

Mae Cymru’n llwyddo i gyrraedd targedau ar gyfer adfer mewndiroedd, gyda dros 3,600 hectar o fewndir oedd wedi’i ddifrodi yn cael ei adfer dros bum mlynedd. Yn ôl amcangyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru, yn nhermau atal allyriadau carbon mae hyn yn gyfwerth a thynnu 6,840 o geir oddi ar ffyrdd Cymru.

Roedd y gwaith yn rhan o’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, a gafodd ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac a gyflawnwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac ystod eang o bartneriaid.

Mewn datganiad yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru fis diwethaf (Gorffennaf 2025), dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:

“Y llynedd cyhoeddais ein bod wedi cyrraedd ein targed adfer cychwynnol, ar gyfer cyfnod o 5 mlynedd, flwyddyn yn gynnar. Rydym bellach wedi rhagori ar hynny drwy adfer cyfanswm o 3,600ha dros bum mlynedd gyntaf y Rhaglen. Hoffwn ddiolch i’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd ac yn enwedig i’n partneriaid cyflawni am fynd y tu hwnt i’n disgwyliadau. Ar gyfer y flwyddyn nesaf, ein chweched flwyddyn, rwyf wedi ymrwymo £5.2m ychwanegol i barhau ac adeiladu ar y gwaith gwych a gyflawnwyd hyd yn hyn, gan gynnwys cyfrannu at gyfleoedd ar gyfer swyddi gwyrdd yng Nghymru.”

Dywedodd Mannon Lewis, arweinydd strategol CNC ar y Rhaglen Mawndiroedd:

“Mae mawndiroedd yn un o’n hadnoddau naturiol mwyaf pwerus yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd – ond dim ond pan maen nhw’n iach. Ar hyn o bryd, mae tua 90% o fawndiroedd Cymru wedi’u difrodi, gan ollwng carbon yn lle ei storio. Dyna pam mae’r gwaith adfer hwn yn bwysig.

“Mewn dim ond pum mlynedd, rydym wedi helpu dros 3,600 hectar i ddechrau eu hadferiad – gan ddod â’r tirweddau hyn yn ôl yn fyw fel y gallant storio carbon, cynnal bywyd gwyllt, a dal dŵr yn fwy effeithiol. Mae’r enillion i’r hinsawdd, i natur, ac i bobl.”

Gallwch ddysgu mwy am y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd drwy ddarllen yr adroddiad blynyddol 2024/25.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This