Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Derek Walker, wedi lansio Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025 mewn digwyddiad yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd i nodi deng mlynedd o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael ei gyhoeddi bob pum mlynedd, blwyddyn cyn cynnal etholiadau’r Senedd. Mae’r adroddiad yn cynnwys gweledigaeth a chyngor y Comisiynydd i wneuthurwyr polisi ar ba gamau sydd eu hangen i helpu amddiffyn a darparu ar gyfer pobl sy’n byw heddiw a’r rheini sydd eto i gael eu geni.
Mae’r adroddiad yn galw am weithredu ar natur, hinsawdd ac iechyd, gan ddatgan nad yw Cymru ar y trywydd cywir i ateb yr amcanion hir dymor sydd wedi eu gosod ar gyfer y meysydd hyn.
Mae’r adroddiad yn gwneud hanner cant o argymhellion i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus ar bynciau megis natur a hinsawdd, diwylliant a’r iaith Gymraeg, yr economi lesiant ac iechyd a llesiant yn gyffredinol. Ymysg rhain mai un ar ddeg galwad am weithredu brys sy’n cael eu rhestru ar wefan Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae rhain yn cynnwys:
- Dim mwy o atebion tymor byr: Rhaid i wleidyddion a chyrff cyhoeddus ymrwymo i ddyfodol hirdymor Cymru, gan osod cynlluniau nid yn unig ar gyfer y pum mlynedd nesaf, ond y 50 mlynedd nesaf.
- Cyflymu camau gweithredu sy’n darparu manteision lluosog: Mae dadgarboneiddio yn lleihau costau, mae adfer natur yn hybu iechyd y cyhoedd, ac mae prynu swyddi lleol yn cefnogi. Mewn cyfnod ariannol heriol, rhaid inni ganolbwyntio ar gamau gweithredu sy’n cyflawni sawl buddugoliaeth.
- Datgloi cyllid y sector preifat: Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu tîm arbenigol i helpu cyrff cyhoeddus i baratoi cynigion parod ar gyfer buddsoddiad a all ddenu cyllid preifat ar gyfer adfer natur a phrosiectau sero net.
- Ymrwymiad Cyflog Byw Go Iawn: Rhaid i bob corff cyhoeddus ymrwymo i gynllun, o fewn dwy flynedd, sy’n amlinellu amserlen i gyflawni achrediad Cyflog Byw Go Iawn. Hyd yn hyn, dim ond 13 o 56 o gyrff cyhoeddus sydd wedi gwneud hynny. Mae hwn yn gam hollbwysig wrth fynd i’r afael â thlodi.
- Diogelu a blaenoriaethu cyllid ar gyfer atal: Rhaid i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus amddiffyn a chynyddu cyllidebau atal bob blwyddyn a symud tuag at drefniadau ariannu hirdymor.
- Cynllun cydnerthedd bwyd cenedlaethol: Rhaid i Lywodraeth Cymru ddatblygu cynllun hirdymor i wella diogelwch bwyd Cymru a sicrhau mynediad cyfartal at ddeietau lleol, fforddiadwy, iach a chynaliadwy.
- Rhaid amddiffyn diwylliant: Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno Bil Diwylliant yn y Seithfed Senedd (2026–2030), gan wneud diwylliant yn ofyniad statudol ar gyfer cyrff cyhoeddus a diogelu ein hawliau diwylliannol.
- Adfer ymddiriedaeth mewn gwneud penderfyniadau: Rhaid i gyrff cyhoeddus adnewyddu eu hymdrechion i gynnwys pobl wrth lunio polisïau, gan leihau’r bwlch rhwng llunwyr polisi a dinasyddion.
- Buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus: Rhaid i Lywodraethau’r DU a Chymru gynyddu cyllid gwasanaethau cyhoeddus o flwyddyn i flwyddyn. Mae cyni ariannol wedi arwain at doriadau difrifol, gan adael gwasanaethau mewn trafferthion.
- Symleiddio partneriaethau a chyllid: Rhaid i Lywodraeth Cymru adolygu a symleiddio strwythurau partneriaeth ledled Cymru i wella effeithlonrwydd a lleihau biwrocratiaeth.
- Adolygu a chryfhau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol: Dylai Llywodraeth Cymru gychwyn adolygiad ôl-ddeddfwriaethol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i wella ei heffaith ac i baratoi ar gyfer Nodau Datblygu Cynaliadwy wedi’u diweddaru gan y Cenhedloedd Unedig yn 2030. Rhaid i’r adolygiad hwn gynnwys deialog gyhoeddus ar y Gymru yr ydym ei heisiau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mewn datganiad, dywedodd Derek Walker:
“Mae Cymru wedi arwain y ffordd dros y 10 mlynedd diwethaf gyda’n gweledigaeth ar y cyd ar gyfer Cymru sy’n amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol, ond nid ydym ar y trywydd iawn i gyrraedd ein nodau iechyd, hinsawdd a natur a fydd yn ein cyrraedd ni.
“Bydd cenedlaethau’r dyfodol yn byw gyda chanlyniadau pob penderfyniad a wnawn i wella bywydau pobl a chydag ymddiriedaeth mewn sefydliadau cyhoeddus sy’n dirywio, rhaid i ni wrando mwy, ymgysylltu’n ystyrlon â phryderon pobl, a’u cynnwys yn ddi-oed.
“Mae’r heriau’n sylweddol ond nid yn anorchfygol ac mae’n rhaid i ni weithio’n gyflym i gynyddu’r enghreifftiau da o newid, a chreu mwy o fuddion i bawb wrth i ni ddatgarboneiddio, adfer natur, gwella iechyd y cyhoedd a chreu swyddi lleol ac economi sy’n gweithio i bobl a’r blaned.”
I ganfod mwy o wybodaeth ac i ddarllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd, dilynwch y ddolen hon i wefan Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.

