Plaid Cymru yn lansio cynllun economaidd newydd

April 2025 | AI ac Awtomeiddio, Polisi gwledig, Sylw, Tlodi gwledig

Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi eu cynllun economaidd newydd o’r enw ‘Gwneud i Gymru Weithio’. Lansiwyd y cynllun mewn digwyddiad yn Coaltown Coffee yn Rhydaman gan Luke Fletcher AS, llefarydd Plaid Cymru ar yr economi ac ynni. Mae’r cynllun yn amlinellu gweledigaeth y blaid ar gyfer adeiladu economi gwydn a thecach cyn etholiadau’r Senedd fis Mai 2026.

Noda’r cynllun mae blaenoriaethau Plaid Cymru yw sicrhau nad yw plant Cymru yn dioddef tlodi, bod cyfleoedd gwaith, addysg a hyfforddiant ar gael i bob person ifanc ac i sicrhau fod cyfoeth yn cael ei greu a’i gadw yng nghymunedau Cymru.

Mae’r cynigion y mae’r cynllun yn ei gyflwyno wedi eu rhannu i 5 prif faes: busnesau, ynni, sgiliau, arloesi a chymunedau. Dyma drosolwg o’r prif bolisïau:

Busnesau

  • Creu Asiantaeth Datblygu Cenedlaethol newydd i Gymru i helpu busnesau Cymreig i dyfu ac aros yn eiddo i Gymru, trwy ddarparu siop un stop ar gyfer cyngor arbenigol a chymorth busnes.
  • Diwygio Banc Datblygu Cymru – gan ei gwneud yn haws i fusnesau Cymru gael gafael ar y cyllid sydd ei angen arnynt i ddatblygu a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
  • Hyrwyddo ‘Brand Cymru’ – denu mewnfuddsoddiad sydd o fudd i’n heconomi a’n cymunedau.
  • Sicrhau bod ein cyrff cyhoeddus yn prynu mwy o’r cynhyrchion a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt gan fusnesau Cymreig.
  • Diwygio ardrethi busnes, i gefnogi’r busnesau Cymreig sydd wrth galon strydoedd mawr ac asgwrn cefn ein heconomïau lleol.

Ynni

  • Datganoli Ystâd y Goron, ar yr un telerau â’r Alban, fel bod yr elw yn aros yng Nghymru.
  • Diwygio cronfeydd budd cymunedol i sicrhau bod mwy o’r elw o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy yn aros ac yn cael ei ail-fuddsoddi yng nghymunedau Cymru.
  • Hwyluso mwy o gydberchnogaeth a pherchnogaeth gymunedol ar brosiectau ynni adnewyddadwy, fel bod cymunedau, cartrefi a busnesau yn teimlo’r manteision yn eu biliau ynni.

Sgiliau

  • Lansio Archwiliad Sgiliau Cenedlaethol i sicrhau bod cyfleoedd addysg a hyfforddiant yn cyd-fynd ag anghenion gwirioneddol cyflogwyr a diwydiannau Cymru, ac yn adlewyrchu cyfleoedd yn economi Cymru yn y dyfodol.
  • Sicrhau bod y gwahanol rannau o’r system sgiliau yn gweithio gyda’i gilydd, fel bod pawb yn cael eu cefnogi’n llawn i gyflawni eu huchelgeisiau a chyflawni eu potensial.

Arloesi

  • Adolygu cyllid myfyrwyr i sicrhau bod mwy o’r arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei wario ar Addysg Uwch yn aros yma yng Nghymru – er budd ein prifysgolion a’n myfyrwyr.
  • Creu Asiantaeth Arloesedd newydd i gefnogi ymchwil, datblygu ac arloesi.

Cymunedau

  • Rhoi ‘hawl i brynu’ i gymunedau – y cyfle cyntaf i brynu asedau allweddol fel busnesau, adeiladau a thir pan ddaw’r rhain ar werth, fel y gellir eu dwyn i berchnogaeth gyfunol er budd economïau lleol.
  • Cefnogi modelau busnes cymdeithasol, sy’n eiddo i’r gymuned a rhai cydweithredol, gan gynyddu’r rhain gyda chyllid penodol drwy’r Banc Datblygu.

Mewn datganiad ar wefan Plaid Cymru, dywedodd Rhodri Evans, perchennog Ffloc yn Nhreganna, Caerdydd:

“Mae diwygio trethi busnes i fusnesau bach a chanolig sydd wedi’u lleoli ar strydoedd ein trefi yn gwbl hanfodol i roi hwb i economi Cymru. Dyma’r unig ffordd fydd gan fusnesau bach y stryd fawr unrhyw obaith i gystadlu yn erbyn busnesau sydd wedi’u lleoli ar-lein yn unig. Achos dydi busnesau ar-lein ddim yn talu trethi busnes ar hyn o bryd. Mae’r system fel ag y mae hi wed torri – mae’n hen bryd i bolisïau fel hyn ddal lan.”

Dywedodd Sarah Drummond o Drop Bear Beer Co. yn Llansamlet, Abertawe:

“Mae Drop Bear yn falch o gefnogi Plaid Cymru. Fel busnes bach gyda llawer o uchelgais i dyfu, rydym yn gyffrous i gefnogi gweledigaeth economaidd y Blaid, a fydd yn sicrhau dyfodol mwy llewyrchus, cynaliadwy a theg i bawb yng Nghymru. Credwn ei bod yn amser am newid, ac rydym yn cefnogi Plaid i ddod â’r newid hwnnw!”

 

I ddarllen y ddogfen yn ei gyfanrwydd, dilynwch y ddolen hon i wefan Plaid Cymru.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This