Cyfleoedd ystyrlon i ddefnyddio’r Gymraeg

March 2026 | Cymunedau a 'lle', Sylw

Cyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg yn ddiweddar ei hadroddiad statudol pum mlynedd ar sefyllfa’r Gymraeg. Nododd y Comisiynydd fod Cymraeg fel “iaith gymunedol naturiol yn gwanhau”, ac fod pobl ifanc yn gynyddol yn byw eu bywydau “mewn cyd-destun lle Saesneg yw iaith chwarae ac adloniant”.

Clywodd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd drwy ei ymchwiliad – Cymraeg i bawb? – pa mor bwysig yw creu cyfleoedd ystyrlon ar gyfer ymgysylltu fel bod y rhai sy’n dysgu’r iaith yn gallu ei defnyddio. Mae hyn yn arbennig o wir mewn ardaloedd a chymunedau sydd â dwyseddau is o siaradwyr Cymraeg. Clywodd hefyd fod newid ymddygiad a hyder iaith Gymraeg yn gofyn am “gynllunio bwriadol” ac am fuddsoddi yn y “mannau corfforol, cymdeithasol, diwylliannol a digidol lle gall y Gymraeg ddod yn rhan naturiol o’r bob dydd”.

Ceisiodd ymchwiliad y Pwyllgor dynnu sylw at gamau ymarferol sy’n adeiladu ar strwythurau presennol, gan ganolbwyntio ar ymyriadau a allai gael effaith uchel gyda lefelau bach o fuddsoddiad ychwanegol. Er mai Llywodraeth Cymru bresennol fydd yn ymateb i argymhellion y Pwyllgor, gyda thymor y Senedd yn dod i ben yn fuan, mae’n debygol mai’r weinyddiaeth nesaf fydd yn penderfynu a fyddant yn cael eu gweithredu ai peidio.

Mae cynnal y Gymraeg a hyrwyddo ei defnydd yn gofyn am set gymhleth o bolisïau ac ymyriadau. Mae rhai ymyriadau’n gweithio ar draws Cymru gyfan, ond mae rhai ardaloedd angen ymyriadau dwys a pharhaus sy’n cefnogi nodweddion ieithyddol a diwylliannol y gymuned neu’r ardal.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This