Yn ddiweddar bu i raglen ARFOR gyhoeddi pecyn newydd sy’n canolbwyntio ar dai a chartrefi yn ardaloedd y rhanbarth a’r polisïau y mae’r cynghorau sir sy’n rhan o’r prosiect yn eu dilyn yn eu hardaloedd unigol.
Fel rhan o orchwyl ail gymal ARFOR, mae gofyn i drefnwyr y rhaglen gyflwyno a rhannu gwybodaeth ynghylch arfer da ym meysydd tai a chartrefi ar draws y rhanbarth. Nod y ddogfen yw rhoi cipolwg ar y gwaith sy’n cael ei wneud gan gynghorau sir, asiantaethau tai ac amrywiaeth o rhanddeiliaid eraill yng nghymunedau ARFOR er mwyn ceisio sicrhau cyflenwad o gartrefi sy’n ateb gofynion lleol. Er nad yw’r holl raglenni tai a drafodir yn y ddogfen i gyd yn deillio o waith ARFOR, mae nifer wedi derbyn cymorth gan ARFOR drwy raglenni megis y Gronfa Her.
Mae’r ddogfen yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol i’r rheini sydd am ganfod gwybodaeth ynghylch y cymorth sydd ar gael pan ddaw at ganfod, brynu neu rhentu tŷ yn ardaloedd Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn. Rhoddir sylw penodol i fentrau a phrosiectau megis, strategaethau tai lleol, defnydd o swyddogion cartrefi gwag, cynllun cartrefi gwag a mesurau megis cynyddu’r premiwm ar ail gartrefi er mwyn ceisio lleihau y nifer o dai haf ac hefyd fel modd o godi cyfalaf a ellir ei ail fuddsoddi i adeiladu a darparu tai sy’n ateb anghenion lleol.
I ddarllen y ddogfen yn ei gyfanrwydd dilynwch y ddolen hon.

