Mewn blog gwadd arbennig sydd yn rhan o gyfres sydd yn edrych yn ôl ar Gronfa Her ARFOR, mae Dr Cynog Prys, Dr Elen Bonner a Dr Rhian Hodges, Ysgol Hanes, Cyfraith a Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bangor, yn trafod y syniad tu ôl i’r Pecyn Recriwtio Gweithlu Ddwyieithog.
Craidd y syniad tu ôl i’r Pecyn Recriwtio Gweithlu Dwyieithog oedd gwrthddywediad amlwg sy’n nodweddu llawer o ardaloedd Gorllewin Cymru: ar y naill law, y canfyddiad nad oes digon o yrfaoedd ar gael yn lleol, gan arwain at oedolion ifanc yn teimlo bod rhaid iddynt adael i chwilio am waith; ac ar y llaw arall, realiti cyflogwyr sy’n ei chael hi’n anodd recriwtio unigolion dwyieithog i swyddi lle mae’r Gymraeg yn sgil allweddol.
Mae’r tensiwn hwn rhwng “diffyg cyfleoedd” a “diffyg sgiliau” yn tanlinellu’r angen am ymyrraeth fwy strategol sy’n cysylltu pobl ifanc â’r cyfleoedd sydd eisoes yn bodoli.
Fel rhan o Gynllun Cronfa Her Arfor, datblygwyd y pecyn i gynorthwyo cyflogwyr sy’n ceisio penodi staff â sgiliau Cymraeg. Mae’n ymateb uniongyrchol i her sy’n dod i’r amlwg dro ar ôl tro: sut i sicrhau gweithlu medrus sy’n gallu darparu gwasanaethau o safon trwy gyfrwng y Gymraeg, mewn cyd-destun lle mae galw statudol ac anghenion cymunedol yn cydgyfarfod.
O dan Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, mae’n ofyniad statudol i gyrff cyhoeddus ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg. Nid mater o ddewis polisi yw hyn, ond dyletswydd gyfreithiol. Mae methu recriwtio staff â’r sgiliau iaith angenrheidiol felly’n peri risg nid yn unig i gydymffurfiaeth â’r gyfraith, ond hefyd i hawl sylfaenol dinasyddion i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ymgysylltu â gwasanaethau cyhoeddus.
Yn ogystal â’r risg i wasanaethau cyhoeddus, mae cyfle yn cael ei golli i hyrwyddo’r cyfleoedd gyrfaol da sydd ar gael i oedolion ifanc o fewn cymunedau Arfor. Nid oes rhaid gadael yr ardal i ddatblygu gyrfa ystyrlon; mae cyfleoedd lleol sy’n cyfrannu at wytnwch economaidd ac ieithyddol y cymunedau hyn, ac sy’n cynnig posibilrwydd gwirioneddol o gadw siaradwyr Cymraeg yn yr ardal.
Fel rhan o’r pecyn, cynhaliwyd cyfweliadau gyda chyflogwyr ar draws sectorau a siroedd Arfor, a chlywyd yn gyson am yr anhawster i ddenu ymgeiswyr â sgiliau Cymraeg priodol. Ar yr un pryd, dengys ymchwil diweddar (Prys et al., 2024; Bonner et al., 2024) fod rhai pobl ifanc â sgiliau Cymraeg cryf yn credu nad oes cyfleoedd addas ar gael yn lleol. Mae hyn yn amlygu bwlch rhwng canfyddiad a realiti’r farchnad lafur.
Ceir hefyd bryder bod allfudo pobl ifanc yn gwanhau hyder a defnydd o’r Gymraeg, yn enwedig mewn cyd-destunau ffurfiol. Yn ôl Llywodraeth Cymru (2024), mae colli pobl ifanc o ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol yn creu anfantais economaidd ac ieithyddol, gan danseilio cynaliadwyedd cymunedau Cymraeg eu hiaith a dwysáu’r her o gynnal gweithlu dwyieithog.
Yn wyneb y cyd-destun hwn, nod y Pecyn Recriwtio yw cynnig ateb ymarferol yn seiliedig ar dystiolaeth. Casglwyd enghreifftiau o arfer da gan gyflogwyr sydd wedi llwyddo i ddatblygu dulliau effeithiol o recriwtio siaradwyr Cymraeg. Mae’r pecyn yn rhannu’r strategaethau hyn, o lunio hysbysebion swyddi deniadol a chlir ynghylch gofynion iaith, i feithrin perthnasoedd gyda sefydliadau addysg a chynnig profiad gwaith strwythuredig.
Un elfen arloesol o’r pecyn yw’r teipoleg o wahanol fathau o oedolion ifanc y gellir eu targedu. Mae hyn yn cydnabod nad yw pobl ifanc yn grŵp unffurf: mae rhai yn benderfynol o aros yn eu hardaloedd, eraill yn awyddus i adael ond yn agored i ddychwelyd, ac eraill yn ansicr ynghylch eu dyfodol. Drwy ddeall y gwahaniaethau hyn, gall cyflogwyr lunio negeseuon a chyfleoedd sy’n fwy tebygol o ddylanwadu ar benderfyniadau ynghylch aros, gadael neu ddychwelyd i Geredigion, Sir Gaerfyrddin, Gwynedd a Môn.
Mae diddordeb sylweddol wedi bod yn y pecyn ers ei lansio, gyda chynghorau sir o bob cwr o Gymru yn mynychu a nifer bellach yn ei ddefnyddio wrth gynllunio eu strategaethau recriwtio dwyieithog. Mae hyn yn awgrymu bod yr her yn un genedlaethol, ond bod modd ei hateb drwy gydweithio a rhannu gwybodaeth.
Yn ogystal â’r pecyn ei hun, mae’r tîm ymchwil wedi datblygu cynllun newydd o lwybrau cyflogadwyedd ar y cyd â chyflogwyr yn y sector gyhoeddus yng Ngogledd Cymru. O 2026 ymlaen, bydd llwybrau uniongyrchol ar gael i fyfyrwyr BA Gwyddorau cymdeithas gael profiad gwaith o fewn cynghorau lleol. Y Gymraeg yw un o ystyriaethau craidd y cynllun hwn, gyda’r nod o greu llwybr clir i raddedigion dwyieithog symud i mewn i swyddi lle mae galw sylweddol am eu sgiliau.
Yn y pen draw, mae’r Pecyn Recriwtio Gweithlu Dwyieithog ymgais i baru unigolion gyda sgiliau Cymraeg gyda marchnad lafur sy’n ei chael yn anodd eu denu a’u cadw. Drwy gefnogi cyflogwyr i ddatblygu ffurf effeithiol o recriwtio staff dwyeithog, gallwn gryfhau’r gweithlu dwyieithog a sicrhau bod y Gymraeg yn parhau’n iaith fyw yn y gweithle ac yn y gymuned.
Am fwy o wybodaeth dilynwch y link – Pecyn Recriwtio Gweithlu Dwyieithog

