Blog gwadd: Creu platfform i raddedigion Cymru gael swyddi yng Nghymru

March 2026 | Arfor, Cymunedau a 'lle', Sylw

Mewn blog gwadd arbennig sy’n rhan o gyfres yn edrych yn ôl ar Gronfa Her Arfor, mae Owain James, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Darogan yn trafod sut yr aethpwyd ati i geisio denu myfyrwyr yn ôl i ranbarthau Arfor wedi iddynt fod yn astudio tu allan i’r ardaloedd hyn.

Dechreuodd Darogan, fel llawer o syniadau da, fel yr ateb syml i broblem fawr.

Tra’n astudio ym Mhrifysgol Rhydychen, roeddwn i a fy nghyd-sylfaenydd Theo yn bwriadu dychwelyd i Gymru i ddechrau ein gyrfaoedd ar ôl graddio. Ond wrth i ni fynychu ffeiriau swyddi a gyrfaoedd lleol yn Rhydychen a’r cyffiniau, fe wnaethon sylwi ar rywbeth. Er gwaethaf diwydiannau cynyddol Cymru a’r gronfa dalent enfawr sy’n awyddus i weithio yno, anaml y byddai cyflogwyr Cymru yn cyrraedd graddedigion dros y ffin. Roedd Llundain a recriwtwyr dinasoedd mawr eraill yn dal i ddominyddu’r olygfa, a byddai talent posibl yn llithro i ffwrdd.

Roedd ein datrysiad yn syml ac yn uchelgeisiol: canolbwynt i raddedigion a ddyluniwyd i gysylltu talent â chyfleoedd gwych ledled Cymru.

Darogan yw Hyb Graddedigion Cymru, yr unig blatfform ar gyfer gyrfaoedd i raddedigion yng Nghymru. Trwy’r platform digidol, digwyddiadau mewn person a gwasanaethau eraill, mae Darogan yn cysylltu talent raddedig ậ cyhyflogwyr yng Nghymru.

Prif amcan y prosiect oedd mynd i’r afael ag un o’r heriau mwyaf a wynebir gan ranbarth ARFOR, sef y nifer uchel o bobl ifanc sy’n gadael y pedwar awdurdod lleol i fyw a gweithio.

Roedd dwy ffrwd i’r peilot, gyda’r rhan gyntaf yn darparu datrysiadau uniongyrchol, tymor byr i’r broblem trwy gynnal digwyddiadau wyneb i wyneb ar gyfer myfyrwyr y tu allan i Gymru, er mwyn hyrwyddo rhanbarth ARFOR a’r cyfleoedd sydd ar gael yno. Ffocws tymor hir oedd i ail ffrwd y prosiect, sef elfen ymchwil, gyda’r nod o ddatblygu ymyriadau ar gyfer y dyfodol. Er mwyn deall yn well y rhwystrau i ddychwelyd i ARFOR i bobl ifanc, cynhaliwyd arolygon a chyfweliadau ymchwil gyda myfyrwyr o bob un o’r pedwar awdurdod lleol.

Yn dilyn derbyn cyllid ychwanegol, bu modd ehangu y gwaith o hwyluso digwyddiadau a chynnal cyfres ‘Cwis Mawr Cymru’, a’n galluogodd i ni i arbrofi gyda strwythur amgen i’n gweithgaredd ymgysylltu. Cynhaliwyd cyfres o nosweithiau cwis ledled Cymru a Lloegr, ar y cyd â chymdeithasau Cymraeg a gyda naws anffurfiol a chymdeithasol iddynt. Roedd y nosweithiau hyn yn gyfle i roi cyflwyniad byr am waith ARFOR a rhannu gwybodaeth am gyflogwyr yn yr ardal yn uniongyrchol gyda’r myfyrwyr a’r graddedigion oedd yn mynychu.

Fe ymgysylltodd y cynllun â chyfanswm o 1,259 o fyfyrwyr gyda diddordeb mewn gyrfaoedd yng Nghymru/ARFOR fel rhan o’r gweithgaredd, sydd nawr yn rhan o fas data a rhwydwaith Darogan, ac felly’n derbyn gwybodaeth am swyddi a chyfleoedd gyrfa yn yr ardal. Derbyniodd pob un o’r rhain wybodaeth am ARFOR dros ebost wrth gofrestru.

Adborth gan gyflogwyr:

“O’r digwyddiad, fe wnaethom gofrestru pedwar unigolyn ar gyfer ein gwasanaeth cefnogi dechrau busnes yn ogystal â lledaenu gwybodaeth werthfawr.”

Mae’r prosiect hwn wedi galluogi Darogan i ddatblygu templed trefnu digwyddiad i raddedigion, a bydd y templed hwn yn llywio ein cynllun ymgysylltu yn y dyfodol wrth i ni barhau ar ein gwaith i ddenu graddedigion yn ôl i Gymru.

Mae’r gwaith ymchwil yn cyfrannu at ein gweithgarwch hirdymor ac yn ein galluogi i lywio ein cynlluniau mewn ffordd sy’n addas ar gyfer ein cynulleidfa darged o fyfyrwyr a graddedigion o Gymru.

Yn benodol, trwy’r gweithdai cyd-ddylunio, cynhaliwyd trwy’r ymchwil, mae gennym nifer o syniadau gan bobl ifanc i archwilio ar gyfer y dyfodol. Er enghraiff,  defnyddio technoleg VR i arddangos hanes a chyfleodd yr ardal i’r rhai sydd wedi gadael.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This