Ysgol Penweddig yn cael llwyddiant yng nghystadleuaeth ‘Menter yr Ifanc’

Mehefin 2024 | Arfor, Sylw

Mae criw o ddisgyblion o Ysgol Penweddig, Aberystwyth wedi dod i’r brig yn rownd derfynol Gwobrau Menter yr Ifanc (Young Enterprise Awards) y Deyrnas Unedig yn Scilly. Llwyddodd y grŵp ennill yng nghategori ‘Cwmni’r Flwyddyn 2024’ (Company of the Year 2024) wedi iddynt gael buddugoliaeth yn rownd gyntaf Cymru yn gynt eleni.

Daw eu llwyddiant yn dilyn eu gwaith ar brosiect o’r enw ‘Sbarion’, sef llyfr ryseitiau sy’n cynghori cogyddion sut i ddefnyddio gweddillion prydau bwyd er mwyn arbed gwastraff. Ceir oddeutu 40 o ryseitiau yn y llyfr, sy’n pwysleisio’r egwyddor nad oes angen prynu cynhwysion o’r newydd bob tro er mwyn cynhyrchu prydau maethlon. Mae’r llyfr yn dangos bod modd yn aml i goginio bwyd o safon gan ddefnyddio gweddillion prydiau blaenorol a’r hyn sy’n llechu yng nghefn y cwpwrdd.

Bwriad y gystadleuaeth, sy’n cael ei redeg gan Young Enterprise, yw annog mentergarwch ymhlith yr ifanc a rhoi profiad ymarferol iddynt o ddatblygu a mireinio eu syniadau a’i sgiliau busnes. Fel rhan o’r cynllun, anogir myfyrwyr i geisio gosod eu syniadau, boed yn nwydd neu wasanaeth, ar waith a datblygu cynllun busnes clir i’r beirniaid gael asesu. Fel rhan o’r broses sefydlodd disgyblion Penweddig gwmni o’r enw Llanw ar gyfer y gystadleuaeth, a bwrw ymlaen i wireddu eu gweledigaeth. Am fwy o wybodaeth am y gystadleuaeth a gwaith Young Enterprise, dilynwch y ddolen hon i’w gwefan.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This