Mewn digwyddiad yn y Pierhead ym mae Caerdydd heddiw mae Ynni Cymunedol Cymru wedi cyhoeddi eu hadroddiad i gyflwr y sector ynni cymunedol. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r cyfleoedd ar gyfer dulliau amgen o berchnogaeth ar ynni sy’n dyfod o’r symudiad i ffwrdd o danwyddau ffosil ac yn amlygu’r modd y gall cymunedau weld toriad yn eu biliau ynni ac ennill cyfalaf er mwyn ei fuddsoddi yn ôl yn eu hardaloedd lleol.
Mae’r adroddiad yn dadlau fod perchnogaeth gymunedol o ddulliau cynhyrchu ynni glan, megis paneli solar, tyrbinau gynt a phrosiectau hydro yn gallu cynrychioli cyfle i gymunedau ennill incwm hir dymor. Yn ei dro gall yr incwm hwn gael ei ddefnyddio i ariannu a datblygu rhagor o fentrau cymunedol er mwyn ateb gofynion ac anghenion cymunedau gan fod yr elw sy’n cael ei gynhyrchu o fodelau perchnogaeth gymunedol yn gallu cael ei ail fuddsoddi yn lleol.
Cafodd yr adroddiad ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac yn dadansoddi gweithgareddau sefydliadau ynni cymunedol yn ystod 2022 drwy ddull cyfweliadau a 37 o gyfranogwyr a rhanddeiliaid y sector ac ymweliadau a’r safleoedd maent yn eu gweithredu. Dywed yr adroddiad gan nad oes datblygiadau mawr newydd wedi dyfod ers cyhoeddi’r adroddiad diwethaf ar y sector yn 2021, mae’r awduron wedi canolbwyntio ar sut y mae prosiectau sefydledig wedi cael effaith ar eu cymunedau yn lleol. Mae hyn yn cynnwys edrych ar y newidiadau cadarnhaol sydd i’w gweld yn yr ardaloedd hyn, ynghyd a’r heriau sy’n cael ei wynebu o ran rheoleiddio ac amodau’r farchnad sydd wedi gweld chwyddiant sylweddol a chostau ynni cyffredinol yn cynyddu.
Mae’r adroddiad felly yn tynnu sylw at enghreifftiau o brosiectau ynni cymunedol sydd wedi eu sefydlu’n barod, megis Ynni Ogwen ym Methesda, sydd wedi gweld swyddi newydd yn cael eu creu yn un o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, gan helpu i leihau tlodi tanwydd a darparu budd economaidd, cymdeithasol a lles cyffredinol hefyd.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Ben Ferguson a Leanne Wood, Cyd-gyfarwyddwyr Gweithredol Ynni Cymunedol Cymru:
‘Mae hi’n eiliad dyngedfennol. Bydd datgarboneiddio ein system ynni a diwedd tanwyddau ffosil yn darparu llu o gyfleoedd i gymunedau Cymru. Cymunedau dylai arwain y newid hwn. Mae rhaid i ni fel gwlad gymryd y cyfleoedd hyn nawr, a sicrhau bod y buddion ohonynt yn cael eu cadw yng Nghymru, a’u teimlo am genedlaethau i ddod.’
I ddarllen yr adroddiad cyfan, ewch i wefan Ynni Cymunedol Cymru.