Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch i gofnodi enwau lleoedd Cymraeg yn ddigidol gan ofyn i’r cyhoedd gyfrannu i’r prosiect er mwyn helpu gwarchod treftadaeth ieithyddol Cymru. Mae gwefan newydd yn caniatáu i unrhyw un gyfrannu enwau lleoedd nad ydynt eto wedi eu cofnodi yn Gymraeg ar fapiau digidol. Y nod yw sicrhau fod cynifer o enwau lleoedd yng Nghymru yn cael eu casglu, eu cofnodi a’u rhannu er mwyn sicrhau defnydd yn y dyfodol.
Mae’r rheini sy’n arwain y rhaglen yn awyddus i gofnodi enwau’r canlynol:
- mynyddoedd a bryniau
- nentydd a rhaeadrau
- caeau a nodweddion amaethyddol
- nodweddion tirweddol eraill
- tai
- busnesau
- pontydd
- hen felinau, gweithfeydd neu ffatrïoedd
- adfeilion
Os oes gyda chi neu rywun yn eich teulu neu un o’ch ffrindiau enwau ar gyfer rhain neu unrhyw nodweddion daearyddol arall, mae modd i chi gyfrannu at y prosiect a’u cofnodi ar-lein drwy ffurflen ddigidol. Bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei rannu gyda Wicipedia, Mapio Cymru / Open Street Map a’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol. Y nod yw bod yr enwau’n ymddangos ar gymaint o adnoddau cyhoeddus ac sy’n bosib.
Mae yna anogaeth hefyd i’r rheini sydd am gymryd rhan yn y prosiect i gyfrannu gwybodaeth ychwanegol hefyd megis ychwanegu clipiau sain er mwyn addysgu eraill ynghylch sut i ynganu enwau penodol ac i ddarparu sillafiadau seinegol ar gyfer yr enwau hyn. I ddysgu mwy am y prosiect ac i weld sut y gallwch chi gyfrannu, dilynwch y ddolen hon i’r dudalen Cofnodi Enwau Lleoedd Cymraeg.

