Ymgyrch ‘Defnyddia dy Gymraeg’ i ddychwelyd ar ddiwedd y mis

Tachwedd 2024 | Sylw

Bydd ymgyrch ‘Defnyddia dy Gymraeg’ Comisiynydd y Gymraeg yn dychwelyd eleni rhwng 25 Tachwedd a 2 Rhagfyr 2024. Bwriad yr ymgyrch yw annog sefydliadau a gweithleoedd i hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg ac i annog unigolion i ddefnyddio’r iaith o ddydd i ddydd.

Yn ôl Swyddfa’r Comisiynydd, bydd sylw penodol yn cael ei roi eleni i sefydliadau ym meysydd iechyd a gofal, oherwydd pwysigrwydd sicrhau argaeledd gwasanaethau o’r fath drwy gyfrwng y Gymraeg at ddibenion gofal, ond mae modd i unrhyw sefydliad Gymryd rhan yn yr ymgyrch. Mae’r Comisiynydd Efa Gruffydd Jones yn eiddgar i bawb i ddefnyddio’r Gymraeg sydd ganddynt, boed hwy yn hollol rugl, heb siarad llawer o Gymraeg ers bod yn yr ysgol neu newydd ddechrau ar ddysgu’r iaith.

Fel rhan o ymgyrch llynedd, fe wnaeth Efa Gruffydd Jones siarad â Hanna Hopwood ynghylch ei blwyddyn gyntaf fel Comisiynydd y Gymraeg. Mae modd gwrando ar y cyfweliad hwnnw yma. I ddysgu mwy am ‘Defnyddia dy Gymraeg’ a sut y gallwch chi gymryd rhan, dilynwch y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This