Ymestyn cyllid cynllun adeiladu capasiti arfordirol Llywodraeth Cymru

June 2025 | Natur a hinsawdd, Sylw

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi parhad yn y ddarpariaeth o gyllid ar gyfer y Cynllun Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol am ddwy flynedd arall. Nod y cynllun yw cefnogi cymunedau arfordirol i geisio syniadau sydd yn cefnogi pysgodfeydd, sicrhau twf cynaliadwy a chynorthwyo arallgyfeirio.

Mae’r cynllun yn cael ei ddarparu drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) ac fe fydd yn darparu £260,000 y flwyddyn rhwng 2025/26 a 2026/27 i gefnogi mentrau amgylcheddol lleol. Mae 11 o brosiectau llwyddiannus eisoes wedi cael eu noddi ac wedi helpu i gryfhau’r cysylltiadau rhwng pobl a natur ledled Cymru. Wrth wraidd y prosiect mae’r nod o geisio cryfhau partneriaethau rhwng cymunedau, busnesau, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus er mwyn sicrhau gweithredu cynaliadwy.

Mewn datganiad dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:

“Mae’r estyniad cyllid hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i wella gwydnwch yn ein cymunedau arfordirol.

Mae’r prosiectau hyn a arweinir yn lleol yn union y math o ddull cydweithredol sydd ei angen arnom – dod â chymunedau, awdurdodau lleol a busnesau ynghyd i ddiogelu ein hamgylchedd morol gwerthfawr wrth greu cyfleoedd cynaliadwy.

Mae’r cynllun yn cryfhau’r cysylltiad rhwng cymunedau arfordirol lleol a natur, gan helpu pobl i ddeall y camau y gallant eu cymryd i wneud gwahaniaeth.”

Ymhlith yr 11 o brosiectau sydd wedi derbyn cyllid hyd yma mae Partneriaeth Natur Leol Castell-nedd Port Talbot. Fel rhan o waith y prosiect  cynhaliwyd cyfres o weithdai i gysylltu pobl â’r cynefinoedd a’r rhywogaethau a geir ar yr arfordir er mwyn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y cynefinoedd hyn a’r hyn y gellir ei wneud i’w gwarchod.

Dywedodd Chloe Angelone, Cydlynydd Amgylchedd Arfordirol a Morol Castell-nedd Port Talbot:

“Nod y Prosiect Cysylltiadau Arfordirol oedd cael pobl i ymwneud â’r arfordir yng Nghastell-nedd Port Talbot a chodi ymwybyddiaeth o’r cynefinoedd a’r rhywogaethau rhyfeddol sydd gennym ar hyd ein harfordir. Mae arfordir Castell-nedd Port Talbot yn gyffredinol yn gysylltiedig â’i dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog yn hytrach na’i gynefinoedd a’i fannau gwyllt. Nod y prosiect felly oedd tynnu sylw at harddwch naturiol yr ardal ac annog gwerthfawrogiad ehangach o’i bwysigrwydd ecolegol.

Mae’r rhai sydd wedi cymryd rhan wedi mwynhau glanhau traethau a saffari glan y môr. Trefnwyd cwrs cymorth cyntaf mamaliaid morol hefyd gyda Sefydliad Achub Bywyd Morol Deifwyr Prydain fel rhan o’r prosiect, ac mae adborth o’r digwyddiadau wedi bod yn hynod gadarnhaol.”

Mae ceisiadau ar gyfer y cynllun dal ar agor, ac os ydych am gael mwy o wybodaeth am ymgeisio ar ran sefydliad anfonwch ebost at lnpcymru@wcva.cymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This