Mae academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth sy’n ymchwilio ar sut i oresgyn unigrwydd cefn gwlad yn chwilio am wirfoddolwyr i rannu eu profiadau.
Mae’r ymchwilwyr yn barod wedi cyfweld sefydliadau trydydd sector ac mae’r prosiect wedi adnabod ffactorau unigryw i gefn gwlad sy’n gallu gwaethygu unigrwydd. Yn rhan nesa’r prosiect maent yn awr yn chwilio am unigolion sy’n byw yng nghefn gwlad neu yn credu eu bod yn perthyn i gymuned amaethyddol rannu eu profiadau er mwyn iddynt barhau a’r ymchwil a llunio argymhellion. Mae modd gwneud hynny drwy e-bostio stj@aber.ac.uk ac mae modd canfod mwy o fanylion ynghylch y prosiect ar wefan Prifysgol Aberystwyth drwy ddilyn y ddolen hon.