Ymchwilwyr o Brifysgol Bangor i lansio adnodd gweithlu dwyieithog

Tachwedd 2024 | Arfor, Sylw

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor wedi cyhoeddi eu bod am lansio adnodd arloesol newydd i helpu gweithleoedd dwyieithog. Bydd y pecyn yn cael ei lansio mewn cynhadledd arbennig wedi ei dargedu at gyflogwyr sydd am recriwtio staff dwyieithog.

Mae’r ‘Pecyn Recriwtio Gweithlu Dwyieithog’ yn dod yn sgil cyllid gan raglen Cronfa Her ARFOR. Nod y pecyn adnodd yw cefnogi sefydliadau i recriwtio staff sydd â sgiliau Cymraeg. Mae’n cynnwys pecyn adnoddau ‘Twlcit Arfer Da’ sy’n cynnig arweiniad ymarferol i gyflogwyr, ynghyd a ‘Theipoleg Penderfyniadau Mudo Siaradwyr Cymraeg’ yn seiliedig ar waith Elen Bonner, sy’n helpu cyflogwyr i adnabod cynulleidfaoedd targed wrth ddenu staff sy’n medru’r Gymraeg.

Dywedodd Dr Cynog Prys, Uwch Darlithydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, ac sy’n arwain ar y prosiect:

‘Mae ein hymchwil yn dangos bod recriwtio staff sydd â sgiliau Cymraeg yn gallu bod yn her wirioneddol i rai cyflogwyr. Mewn ymateb i hyn, rydym wedi creu adnodd ymarferol ar gyfer cyflogwyr a fydd yn eu helpu i recriwtio gweithwyr sydd â’r sgiliau ieithyddol angenrheidiol er mwyn ymgymryd â’u swyddi. Mae hyn yn cynnwys 10 Arfer Da gall cyflogwyr ystyried wrth recriwtio a theipoleg unigryw sy’n cynorthwyo cyflogwyr i deilwra negeseuon wrth dargedu grwpiau penodol. Edrychwn ymlaen at rannu’r adnoddau hyn fel rhan o’r digwyddiad.’

Yn ystod y diwrnod, bydd sgyrsiau panel yn cynnwys cyflogwyr a phobl ifanc yn rhannu eu profiadau recriwtio a bydd cyfranwyr o Gymru a Gwlad y Basg yn trafod eu harbenigedd yn y maes recriwtio a chynllunio iaith.

Bydd y digwyddiad am ddim yn cael ei gynnal rhwng 9:30yb a 3:30yh ar 29 Tachwedd 2024 yn Neuadd Reichel ym Mhrifysgol Bangor. Am fanylion pellach ac i archebu tocyn dilynwch y ddolen hon. Mae angen cofrestru ar gyfer y digwyddiad erbyn 22 Tachwedd 2024 i sicrhau eich lle.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Dewis iaith

Llwyddiant!

Share This