Mae adroddiad ymchwil gan gwmni Arad wedi dangos fod Urdd Gobaith Cymru wedi cyfrannu £44.9 miliwn i economi Cymru yn y flwyddyn 2022-23. Mae hyn yn dangos cynnydd yng ngwerth economaidd y mudiad o £25.5 miliwn i £44.9 miliwn mewn pum mlynedd, cynnydd o 76%, tra bod trosiant y mudiad wedi cynyddu o £10.2 miliwn i £19.6 miliwn, sy’n 88% o gynnydd.
Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw mewn digwyddiad yng Ngwersyll yr Urdd, Bae Caerdydd, yn rhoi sylw arbennig hefyd i’r modd y mae’r Urdd yn darparu cyfleoedd swyddi i bobl ifanc yng Nghymru a’u rôl fel cyflogwr. Mae 42% o weithlu’r Urdd o dan 25, a 38% o aelodau eu byrddau cenedlaethol strategol rhwng 18 a 25. Dengys yr adroddiad ymrwymiad yr Urdd i fod nid yn unig yn fudiad sy’n cynnig cyfleoedd hamdden i bobl ifanc ond un sydd hefyd yn ymroddedig i gyflogi a hyfforddi’r ifanc hefyd.
Mae’r adroddiad hefyd yn dangos y cyfraniad economaidd y mae gwersylloedd yr Urdd yn eu gwneud i’w hardaloedd lleol ac yn genedlaethol. Yn ôl Arad fe gynhyrchodd wersylloedd yr Urdd £7.9 miliwn yn eu cymunedau tra bod eu gweithgareddau chwaraeon wedi cynhyrchu £6.1 miliwn o werth economaidd ar draws Cymru. Bu cynnydd o 109% yn y nifer o Brentisiaethau newydd ers 2018 ac mae 80% o’r rheiny sydd wedi cwblhau’r cynllun prentisiaeth yn cael eu cyflogi gan y mudiad.
Ynghyd a’i brif orchwyl o ddarparu darlun o gyfraniad economaidd yr Urdd, mae’r adroddiad hefyd yn dangos sut y mae gweithgaredd yr Urdd yn cael effaith gadarnhaol ar y modd y gwelir yr iaith gan bobl ifanc Cymru gyda 92% o ymatebwyr i arolwg a gynhaliwyd yn dweud eu bod yn teimlo’n fwy positif am yr iaith, 88% yn dweud eu bod yn fwy tebygol o ddefnyddio’r iaith a 73% yn dweud eu bod yn teimlo eu bod yn deall mwy am Gymru. Gwelwyd ymatebion cadarnhaol hefyd wrth drafod eu hyder, eu lles a’u sgiliau cymdeithasol.
Dywedodd Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd:
‘Comisiynwyd cwmni ymchwil Arad i asesu gwerth economaidd yr Urdd i Gymru, ac mae’n deg dweud ein bod yn hynod falch o’r ffigurau. Nod yr Urdd yw sicrhau profiadau a gweithgareddau drwy’r Gymraeg i ieuenctid Cymru ond mae’r adroddiad yma yn profi ein bod yn mynd uwchlaw ein hamcanion drwy greu swyddi a chyfoeth i economi Cymru.
‘Bellach gyda 362 o staff, yr Urdd yw un o’r cyflogwyr mwyaf yn y Gymraeg, ynghyd â’r prif ddarparydd Prentisiaethau drwy’r Gymraeg oddi fewn y trydydd sector yng Nghymru. Mae gwerth economaidd o £44.9 miliwn yn dangos y gall sefydliad trydydd sector sy’n gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg lwyddo i greu effaith economaidd ynghyd â dylanwad cadarnhaol ar yr iaith.
‘Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, rydym yn gwerthfawrogi bod angen i bob sefydliad sy’n derbyn arian cyhoeddus ddangos gwerth am arian ac rwy’n falch bod yr adroddiad hwn yn dangos yn glir ein heffaith ar Gymru.’
I ddarllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd, dilynwch y ddolen hon.