Mae academydd o adran WISERD (Wales Institute of Social and Economic Research and Data) Prifysgol Caerdydd wedi amlinellu rhai canfyddiadau cychwynnol sydd i’w gweld yn ei hymchwil ar agweddau pobl ifanc tuag at yr iaith Gymraeg. Mae Dr Laura Arman o’r ganolfan yn arbenigo ar y Gymraeg ym myd addysg ac wedi bod yn mesur a chofnodi ymatebion disgyblion ysgol uwchradd Cymraeg a Saesneg i wahanol gwestiynau ynghylch yr iaith Gymraeg.
Mewn blog ar wefan WISERD mae Dr Arman yn amlinellu sut y mae agweddau tuag at gwestiynau creiddiol ynghylch y Gymraeg, megis ei bwysigrwydd i hunaniaeth bersonol a defnyddioldeb meddu’r Gymraeg fel sgil, yn amrywio’n fawr yn ddibynnol ar iaith gyfrwng yr addysg y mae disgyblion yn eu derbyn. Mae’r gwaith yn darparu cipolwg diddorol i sut y mae barn unigolion yn amrywio ac yn newid dros amser ac yn darparu tystiolaeth ddefnyddiol i lunwyr polisi wrth iddynt ystyried goblygiadau addysg ar agweddau tuag at yr iaith.
Gallwch ddysgu mwy am yr ymchwil a canfyddiadau Dr Arman drwy ddilyn y ddolen hon i wefan WISERD.