Blog gwadd: Llinos Williams o gwmni Alaw, sydd yn trafod y cyd-weithrediad rhwng Alaw a Chymdethas Pel Droed Cymru wrth iddynt fynd ati i arwain ar brosiect “Y Wal Goch yn y Gymuned”
Nod y cynllun oedd ceisio mynd ậ ysbryd dwyieithog y Wal Goch i ganol rhai o gymunedau Cymru yn ogystal a dathlu bwrlwm y Wal Goch ar lawr gwlad trwy drefnu cyfres o ddigwyddiadau lleol o fewn cymunedau ARFOR.
Cynllun oedd hwn a lansiwyd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru, gyda chefnogaeth ARFOR. Y nod oedd mynd ag ysbryd dwyieithog y Wal Goch i ganol rhai o gymunedau Cymru. Rhwng mis Mai a mis Rhagfyr 2024, cynhaliwyd 11 o ddigwyddiadau yn siroedd Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr, a’r rheini’n dathlu bwrlwm y Wal Goch ar lawr gwlad. Digwyddiadau teuluol oedd y rhain, yn amrywio o gerddoriaeth fyw i weithdai pêl-droed, gyda rhai o sêr y gamp yn ymddangos mewn ambell leoliad. Y nod oedd defnyddio llwyddiant timau pêl-droed cenedlaethol y dynion a’r merched i uno pobl, busnesau a’r celfyddydau yng nghymunedau’r pedair sir.
Roedd cydweithredu â busnesau lleol, grwpiau cymunedol a chlybiau pêl-droed yn ganolog i’r digwyddiadau. Yn ogystal â chreu cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol o bob digwyddiad, crëwyd cynnwys addysgiadol i gyflwyno terminoleg Cymraeg y byd pêl-droed i bobl. At hynny, crëwyd fideo sy’n trafod y prosiect ac sy’n dangos sut mae pêl-droed yn cyfrannu at negeseuon craidd ARFOR, sy’n cynnwys hyrwyddo’r Gymraeg a chryfhau’r economi leol.
Enghreifftiau o’r digwyddiadau a gynhaliwyd; Digwyddiad teuluol ar y cyd â Menter Môn, Môn Actif a Chlwb Pêl-droed Llangefni ar noson gêm Cymru v Gibraltar, fel rhan o ddathliadau Gŵyl Cefni: Cefnogi gŵyl deuluol newydd yn Aberporth, gan gydweithio gyda Chlwb Pêl-droed Aberporth a Cered i drefnu gweithdai pêl-droed ac elfennau artistig a Gweithdai pêl-droed a rhaglen lawn o weithgareddau celfyddydol mewn partneriaeth â Chlwb Pêl-droed Dolgellau a Sesiwn Fawr Dolgellau.
Roedd amcanion gwreiddiol y cais yn cynnwys cydweithio â chlybiau pêl-droed a chymunedau lleol ym mhedair sir ARFOR i greu hybiau, gan ddefnyddio grym pêl-droed i uno pobl, busnesau a’r celfyddydau.
Y nod oedd efelychu bwrlwm ac awyrgylch gemau rhyngwladol Cymru yng Nghaerdydd. At hynny, roedd y Gymdeithas Bêl-droed yn awyddus i fynd i gymunedau er mwyn cwrdd â chefnogwyr sy’n teithio’n bell i’r brifddinas i wylio gemau Cymru, yn ogystal ag i gemau oddi-cartref. Dyma bobl sy’n gwneud ymdrech fawr yn hyn o beth, ac roedd y Gymdeithas Bêl-droed am roi rhywbeth yn ôl iddyn nhw.
Rhoddwyd pwyslais ar gynnal digwyddiadau teuluol, gan sicrhau manteision cymdeithasol a diwylliannol i genedlaethau’r dyfodol. Heb os, cyrhaeddwyd y nod hwn, gyda phob digwyddiad yn llawn o blant, pobl ifanc a theuluoedd yn mwynhau digwyddiadau cymdeithasol a chelfyddydol trwy’r Gymraeg.
Un o brif amcanion y prosiect oedd meithrin cysylltiadau â’r byd busnes a chadw’r bunt yn lleol. Defnyddiwyd cwmnïau lleol ym mhob un o’r digwyddiadau.
Yn ogystal â chreu gofod Cymraeg yn y digwyddiadau eu hunain, un o’r amcanion gwreiddiol eraill oedd creu gofod digidol drwy ddefnyddio sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol a gwasanaeth ffrydio Cymdeithas Bêl-droed Cymru, RedWall+. Llwyddwyd i wneud hyn, gyda fideo o bob un o’r digwyddiadau yn cael ei rannu ar Facebook, Instagram a sianel X y Gymdeithas Bêl-droed.
Y brif her gyda’r prosiect yma oedd sicrhau bod llwyddiant y Wal Goch yn cyrraedd y byd pêl-droed ar lawr gwlad, ac yn cyrraedd cymunedau ein clybiau lleol.
Mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi gwneud ymdrech fawr dros y blynyddoedd i roi llwyfan i’n hiaith a’n diwylliant mewn gemau rhyngwladol. Yr her, fodd bynnag, yw sicrhau bod hyn yn treiddio i’r clybiau ar lawr gwlad. Yn hyn o beth, gwelwyd bod cyfle i ddefnyddio grym pêl-droed i uno cymunedau a chreu gofodau i’r iaith ac i ddiwylliant Cymru.
Fel y crybwyllwyd eisoes, roedd y Gymraeg yn ganolog i’r holl ddigwyddiadau a gynhaliwyd. Yn ôl y cymunedau dan sylw, mae digwyddiadau o’r fath yn hollbwysig wrth gynnal y cymunedau hynny ac wrth geisio hybu’r iaith yn eu hardaloedd. Ceir gwagle a diffyg cyfleoedd i ddod â phobl, busnesau a mudiadau at ei gilydd o dan faner yr iaith, ac roedd digwyddiadau’r prosiect hwn yn ffordd wych o wneud hynny.

