Mae’r Vanguard Initiative wedi cyhoeddi rhai o fanylion VInnovate 2025, sef rhaglen er mwyn hwyluso a hyrwyddo gwaith arloesol cydweithredol rhwng sefydliadau ar draws Ewrop.
Mae’r Vanguard Initiative yn gynghrair o rai o’r rhanbarthau diwydiannol mwyaf datblygedig yn Ewrop. Amcan y fenter yw ysgogi arloesi diwydiannol a phartneriaethau rhwng gwahanol ranbarthau sy’n arbenigo mewn meysydd gwahanol ac felly gall helpu ei gilydd i ffynnu.
Drwy helpu sefydliadau a busnesau i rannu gwybodaeth, arbenigedd ac adnoddau ar draws gwahanol ranbarthau mae’r Vanguard Initiative yn ymgais i wella cydweithio rhyngranbarthol a chynyddu buddsoddiad yn y rhanbarthau hyn.
Mae rhaglen VInnovate 2025 yn rhoi’r cyfle i sefydliadau Cymreig i gymryd rhan yn y gwaith hwn ac i gydweithio ar brosiectau gyda phartneriaid o ar draws Ewrop. I gymhwyso ar gyfer y rhaglen bydd angen i brosiectau llwyddiannus ddatblygu atebion bydd yn cefnogi:
- Diwydiant clyfrach sy’n integreiddio technolegau digidol i ddiwydiannau er mwyn creu cyfleoedd newydd a gwella’r rhai presennol.
- Diwydiant cynaliadwy sy’n helpu’r symudiad tuag at ddiwydiant sero net.
- Diwydiant sy’n fwy ymreolaethol sy’n lleihau ddibyniaeth ar ranbarthau eraill ar gyfer arloesiadau technoleg dwfn.
Mae modd dysgu mwy am VInnovate 2025 a chanfod os yw’n berthnasol i’ch sefydliad chi drwy ddilyn y ddolen hon. Bydd digwyddiad ar-lein i rannu gwybodaeth bellach yn cael ei gynnal ar 6 Mai 2025 ac fe allwch gofrestru i fynychu drwy ddilyn y ddolen hon.

