Ystyried y broses o symud o gynllun y taliad sylfaenol i ffordd cynaliadwy

Gorffennaf 2020 | O’r pridd i’r plât, Sylw

green grass field near green trees and mountain during daytime

I lawer ohonom, nid oedd eleni’n teimlo’r union yr un fath heb ffenomen ffisegol Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, uchafbwynt calendr yn y flwyddyn ffermio. Ond er nad oedd yn bosibl dod ynghyd gyda chydweithwyr a ffrindiau dros frechdan selsig flasus a pheint, sicrhaodd y trefnwyr fod digonedd o drafodaethau ynglŷn â pholisi a dyfodol ffermio yn y cyfnod ansicr hwn.

Dan ofal y CLA, ystyriodd panel o arbenigwyr ar-lein y broses o symud o Gynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) presennol sydd ar fin digwydd i bolisi defnydd tir newydd yn seiliedig ar reoli tir yn gynaliadwy (SLM), a fydd yn newid sylweddol i ffermwyr a rheolwyr tir ledled Cymru.  Mynegodd y Gweinidog Ffermio, Lesley Griffiths AS ei rhwystredigaeth ynghylch yr oedi ar lefel Llywodraeth y DU a galwodd am eglurder ynghylch y trefniadau ariannu ar ôl Brexit yn y dyfodol.  Pwysleisiodd fod Llywodraeth Cymru bob amser wedi bod yn glir na ddylai cytundebau masnach yn y dyfodol danseilio deddfwriaeth ddomestig a’r safonau cynhyrchu uchel yn y diwydiant ffermio yng Nghymru.

Bydd Papur Gwyn yn cael ei gyflwyno cyn diwedd sesiwn y Senedd hon, a fydd yn paratoi’r ffordd ar gyfer Bil Amaethyddol Cymru y mae angen ei ddeddfu cyn diwedd 2024, ac a fydd yn pennu’r fframwaith strategol ar gyfer datblygu ffermio a choedwigaeth dros y ddau ddegawd nesaf.  Dros yr haf, bydd y Llywodraeth yn ymgynghori ar gadw a symleiddio rheolau’n ymwneud â chymorth amaethyddol i ffermwyr a’r economi wledig.

Rhybuddiodd y panelwr Manon Williams, un o bartneriaid Agri Advisors, nad oedd ffermwyr, o’i phrofiad hi, yn cymryd rhan yn y broses a bod y diffyg sicrwydd o ran beth fyddai’r lefelau cyllid yn eu drysu, a hyd yn oed p’un ai a fyddai cytundeb wrth adael yr UE ai peidio.

Dadleuodd fod angen o leiaf blwyddyn i roi unrhyw gynllun newydd ar waith, a bod angen dealltwriaeth glir ar y gymuned ffermio o’r meini prawf cymhwyster a’r lefelau cyllid er mwyn gallu cynllunio’n ddigonol.

Mae hwn yn gyfnod o newid digynsail. Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng bioamrywiaeth yn dod yn fwyfwy amlwg, ac mae Brexit a’r pandemig yn cyflymu’r newidiadau. Nid yw arallgyfeirio erioed wedi bod mor bwysig ac mae’n debygol y bydd y taliad SLM yn annog mwy o ffermwyr i ddilyn arferion cynaliadwy.

Gall pob un ohonom gytuno bod newid yn anochel, a’i fod yn digwydd o flaen ein llygaid, ar gyflymder nad ydym wedi arfer gydag ef, ond mae’n dda cael ein hatgoffa nad yw newid yn beth drwg o reidrwydd, ac nad oes gan y gymuned ffermio ddewis ond bachu ar unrhyw gyfleoedd posibl yn sgil Brexit.

Ffynhonnell
https://royalwelsh.digital/ffermio-cynaliadwy-an-tir-siapior-dyfodol-gyda-llywodraeth-cymru-ffermwyr-cymru-a-rheolwyr-tir/?lang=cy

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This