Mae’r Prif Weinidog Eluned Morgan wedi arwyddo cytundebau cydweithredol gyda Chatalonia a Gwlad y Basg, gan atgyfnerthu cysylltiadau rhyngwladol Cymru a’r ymrwymiad i weithio gyda phartneriaid tu hwnt i’r DU.
Mae’r memoranda dealltwriaeth yn amlinellu cynlluniau i gydweithio’n agosach ar ynni adnewyddadwy, ochr yn ochr â meysydd megis technoleg, seiberddiogelwch, deallusrwydd, masnachu a buddsoddi, a gwaith ar y cyd ynghylch iaith a diwylliant.
Gan dynnu ar ei phrofiad o fod yn Aelod o’r Senedd Ewropeaidd am 15 mlynedd, fe wnaeth y Prif Weinidog bwysleisio gwerth cydweithio gyda rhanbarthau o faint cyffelyb gan nodi fod y cysylltiadau hyn yn gallu bod yn hwb i dwf economaidd a chreu partneriaethau hir dymor rhwng llywodraethau, prifysgol a busnesau.
Darllenwch y datganiad i’w wasg yn ei gyfanrwydd yma – “Rhaid i Gymru fanteisio ar bob cyfle i weithio gyda chenhedloedd a rhanbarthau eraill” yn dilyn cytundebau gyda Chatalwnia a Gwlad y Basg | LLYW.CYMRU

