Y modd gall teimlo’n rhan o’ch cymuned lywio barn am iechyd a gofal gwledig

December 2025 | Cymunedau a 'lle', Sylw

Mae astudiaeth mynediad agored yn y cyfnodolyn BMC Health Services Research yn edrych ar sut y mae teimlo’n rhan o’r gymuned leol yn siapio’r ffordd mae trigolion gwledig yn barnu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Gan ddefnyddio ymatebion arolwg 405 o oedolion sy’n byw yn Nyffryn Serchio yng ngogledd Twsgani, mae’r awduron yn archwilio a yw ymdeimlad cryf o gymuned yn gysylltiedig â gwerthusiadau gwell o wasanaethau lleol – a beth allai hynny olygu ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol gwledig.

Pwyntiau allweddol o’r ymchwil

Beth a wnaethpwyd

  • Arolwg o 405 o drigolion yn Nyffryn Serchio, ardal wledig gyda phoblogaeth sy’n heneiddio a heriau iechyd sylweddol.
  • Fel rhan o brosiect ‘Proximity Care’ a’r Gofod Arsylwi Profiad Poblogaeth, mesurodd ymchwilwyr Ymdeimlad o Gymuned (Sense of Community neu SoC) ar raddfa 8 pwynt ac fe ofynnwyd i bobl raddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol lleol.

Beth a ganfyddwyd

  • Roedd pobl gyda ‘Ymdeimlad o Gymuned’ cryfach yn fwy tebygol o roi sgôr cadarnhaol i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Roedd oedran hŷn, iechyd hunan-adrodd gwell a derbyn cymorth gan sefydliadau trydydd sector yn gysylltiedig â Ymdeimlad o Gymuned uwch.
  • Roedd cael eich magu yn yr ardal a bod yn aelod o sefydliadau trydydd sector hefyd yn cynyddu Ymdeimlad o Gymuned, ond roedd y grwpiau hyn yn tueddu i fod yn fwy beirniadol yn eu gwerthusiadau gwasanaeth.

Pam mae’n bwysig

  • Mae Ymdeimlad o Gymuned yn dod i’r amlwg fel adnodd cymdeithasol allweddol i ardaloedd gwledig – nid yn unig ar gyfer lles unigol ond hefyd ar gyfer sut mae gwasanaethau’n cael eu profi a’u barnu.
  • Mae’r awduron yn dadlau y dylai polisïau iechyd a gofal cymdeithasol gwledig yn y dyfodol adeiladu ar gryfderau cymunedol, gyda gweithwyr proffesiynol yn gweithredu llai fel darparwyr unigol a mwy fel geiriolwyr ac hwyluswyr cymunedau lleol grymus.

Darllenwch yr erthygl lawn: The relationship between Sense of Community and perceived service quality: rethinking the role of local communities in sustaining rural health and social care

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This