Gronfa Ffyniant Gyffredin (UKSPF) yw rhaglen fuddsoddi seiliedig ar le Llywodraeth y DU0, a gyflwynwyd i gymryd lle cyllid strwythurol yr UE ac i gefnogi datblygiad economaidd ar draws y DU rhwng 2022 a 2026. Mae cyllid yn cael ei ddosbarthu drwy awdurdodau lleol ac yn cael ei strwythuro ar sail tair blaenoriaeth buddsoddi: Cymunedau a lle, Cefnogi busnesau lleol, Pobl a sgiliau. Mae’r dadansoddiad hwn yn canolbwyntio yn benodol ar ganfyddiadau sy’n berthnasol i Gymunedau a lle, sydd yn flaenoriaeth greiddiol buddsoddi sy’n cael ei asesu ym mhob un o’r gwerthusiadau seiliedig ar le interim ar gyfer Cymru. Mae’r adroddiadau interim hyn yn archwilio cynllunio rhaglen, cynnydd cyflenwi ac allbynnau cynnar yn hytrach na thraweffaith hir dymor.
De Orllewin Cymru
Yr hyn sy’n gweithio – Mae cyflenwi Cymunedau a lle wedi elwa o gydweithio rhanbarthol oedd yn bodoli yn barod a phartneriaethau lleol sefydledig. Mae’r adroddiadau gwerthuso yn dangos ymgysylltu cynnar cymharol gryf gyda sefydliadau cymunedol a gwirfoddol, wedi’i gefnogi gan yr hyblygrwydd i allu targedu cyllid tuag at anghenion a adnabyddir yn lleol.
Yr hyn nad yw’n gweithio (eto) – Mae amserlenni cyllid byr wedi cyfyngu cynllunio tymor hir a phrosiectau seiliedig ar le sy’n fwy cymhleth. Er bod gweithredu wedi ei gychwyn, roedd gwariant ac allbynnau cynnar tu ôl i’r hyn a ddisgwyliwyd, gan adlewyrchu anghenion gweinyddol a phwysau cyflenwi yn hytrach na’r effaith a aseswyd.
Darllenwch y gwerthusiad cyfan – South West Wales UKSPF evaluation: interim findings – GOV.UK
Canolbarth Cymru
Yr hyn sy’n gweithio – Mae defnydd o raglenni grant ymbarél wedi galluogi cyllid Cymunedau a lle i gyrraedd sefydliadau cymunedol llai yn gynt. Mae’r dull hwn yn cael ei adnabod fel un effeithiol fel un sy’n cyflymu cyflenwi cynnar, yn enwedig pan gall prosiectau cael eu cwblhau o fewn amserlenni byr.
Yr hyn nad yw’n gweithio (eto) – Mae cynnydd ar brosiectau sydd â dibyniaeth fawr ar gyfalaf neu isadeiledd wedi bod yn arafach. Noda’r gwerthusiad fod cyfyngiadau ar gapasiti gwledig a phwysau ar lif arian sydd wedi’u cysylltu i ôl-daliadau wedi effeithio cyflenwi yn ystod y cam interim hwn.
Darllenwch y gwerthusiad cyfan – Mid Wales UKSPF evaluation: interim findings – GOV.UK (Rhagfyr 2025)
Gogledd Cymru
Yr hyn sy’n gweithio – Mae fframwaith strategol ar draws y rhanbarth, wedi’i gyfuno a chyflenwi lleol drwy alwadau agored a Chronfeydd Allweddol wedi cefnogi mynediad at gyllid Cymunedau a lle i ystod eang o sefydliadau cymunedol. Mae ymgysylltu cynnar yn amlwg lle mae dulliau cyflenwi yn eu lle yn barod.
Yr hyn nad yw’n gweithio (eto) – Er bod cyllid wedi ei glustnodi ar y cyfan, mae gwariant go iawn ac allbynnau wedi’i chwblhau ar Gymunedau a lle yn cwympo tu ôl i’r proffil a gynlluniwyd. Mae’r adroddiad yn dangos pwysau amser a baich gweinyddol fel heriau parhaus sy’n cael effaith ar gyflymder cyflenwi.
Darllenwch y gwerthusiad cyfan – North Wales UKSPF evaluation: interim findings – GOV.UK (Rhagfyr 2025)
De Ddwyrain Cymru
Yr hyn sy’n gweithio – Mae gweithgarwch Cymunedau a lle wedi ei wneud yn gydnaws a blaenoriaethau strategol lleol, gyda chynnydd i’w weld yn nhermau gweithgarwch ganol dref ac ymyraethau sy’n rhoi sylw i’r gymuned. Mae cefnogaeth i bobl a llefydd sy’n wynebu lefelau uwch o anfantais yn dangos cyflenwad cynnar cryfach.
Yr hyn nad yw’n gweithio (eto) – Mae’r gwerthusiad yn nodi amrywiaeth mewn cyflenwad ar draws awdurdodau lleol ac ymgysylltu allanol mwy cyfyngedig wrth ddylunio rhaglenni. Mae canlyniadau yn seiliedig ar le sy’n fwy cymhleth eu natur yn parhau i fod yn is na’r disgwyl, gyda gofidion ynghylch capasiti a phroffiliau gwario ar y cam hwn.
Darllenwch y gwerthusiad cyfan – South East Wales UKSPF evaluation: interim findings – GOV.UK (Rhagfyr 2025)
Yr hyn mae’r dystiolaeth interim yn ei ddangos ar y cyfan
Ar draws Cymru mae’r gwerthusiadau interim yn awgrymu fod gweithgarwch Cymunedau a lle wedi cynyddu’n gynt lle’r oedd gallu i gyflenwi adeiladu ar bartneriaethau parod a lle gall ymyraethau gael eu gweithredu o fewn amserlenni cyfyng. Ar yr un pryd, mae amserlenni cyflenwi cyfyng, gofynion gweinyddol, pwysau llif arian a capasiti staffio oll yn cael eu hadnabod yn gyson fel ffactorau sy’n cyfyngu ar newid seiliedig ar le sy’n ddyfnach neu’n fwy cymhleth. Gan eu bod yn ganfyddiadau interim, nid yw’r adroddiadau yn asesu traweffaith hir dymor ar y cam hwn ond yn hytrach yn darparu tystiolaeth gynnar ar ba mor effeithiol mae cyllid Cymunedau a lle yn cael ei gyflenwi a lle gall cyfyngiadau strwythurol siapio allbynnau’n hwyrach yn y rhaglen.

